
Roeddwn i’n edrych ymlaen at ei nofel ddiweddara, Haydn a Rhys ac ni chefais fy siomi....
‘Awdur mentrus a hyderus,’ meddai Rhiannon Ifans wrth feirniadu nofel Geraint Lewis, Lloerig, gafodd ganmoliaeth uchel yng Nghyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod AmGen 2021. Roeddwn i’n edrych ymlaen at ei nofel ddiweddara, Haydn a Rhys ac ni chefais fy siomi.
Nofel dditectif/ddirgelwch yw hon ond amaturiaid yw’r ditectifs, dau ffrind bore oes, Haydn a Rhys, ar eu gwyliau yn Sir Fôn ac ysfa Haydn yw casglu tystiolaeth fod ei fab-yng-nghyfraith, Scott, yn cael affêr. Ond mae’r ffordd yn y nofel hon yn llawn troadau sy’n bachu sylw’r darllenydd.
Gyda llaw, sylwodd yr awdur nad oedd llawer o nofelau am ddynion yn eu saithdegau. Fel un sy wedi cyrraedd oed yr addewid (pa addewid?), rwy’n croesawu hyn.
Tipyn o gamp yw cynnal stori ddirgelwch ar hyd 32 o benodau ond mae’r awdur yn llwyddo am ei fod yn feistr ar sut i adrodd stori, yn gwybod faint o wybodaeth i’w ryddhau a faint i guddio ac felly’n creu’r elfen ddisgwyl. Ar ddechrau Pennod 27 datgelir y manylion canlynol, bod diferyn o waed ar forthwyl a chorff ar lawr ac mae hyn yn ddigon o abwyd i ddenu’r darllenydd.
O ran arddull, mae rhychwant Geraint Lewis yn eang wrth gyfleu’r dwys a’r doniol. Weithiau gall lunio troad ymadrodd trawiadol, er enghraifft ‘Roedd e’n treial yn rhy galed i beidio treial yn rhy galed.’ Weithiau gall gyfleu sefyllfa ddirdynnol ac mae ei ddisgrifiadau o oriau olaf Ann, gwraig Haydn, yn rymus.
Ei ddyfais lenyddol fwya effeithiol, yn fy marn i, yw’r gymhariaeth a rhoddaf ychydig o enghreifftiau: ‘ei galon fel aderyn caeth,’ ‘un o’i wenau sinistr, llechwraidd, fel Jack Nicholson,’ neu tyndra ‘fel blanced anweledig yn llawn pinnau.’ Ambell waith mae’r gymhariaeth yn delynegol: ‘y cyffur yn ei gysuro fel cwrlid cysurus.’ Ar ben hynny, mae’r defnydd o dafodiaith Ceredigion, er enghraifft ‘Gad dy lap wast’ yn cyfleu ymdeimlad chwerw-felys mewn mannau.
Nofel ffilmig yw hon, y golygfeydd yn amrywio o’r pumdegau, y chwedegau, y saithdegau, yr wythdegau, y nawdegau i’r ganrif hon ac o Geredigion i Fôn, i Lydaw, i Lundain. Dyw hyn ddim yn creu dryswch ond yn ychwangegu dimensiwn arall at y naratif ac weithiau’n cryfhau’r elfen ddisgwyl.
A’r thema? Efallai bod cliw ar dudalen 153 lle mae Teleri’n dweud wrth ei thad Haydn: ‘Wy wedi dysgu un peth trwy ‘ngwaith: mae pobol yn gymhleth …’ Ond wrth ailfeddwl, mae’n debyg taw’r thema yw na ddylen ni ddatgelu rhai cyfrinachau rhag ofn ein bod yn ailagor clwyfau.
Rhaid cyfeirio at ychydig o wendidau. Gan fod ‘crychodd ei dalcen’ yn cael ei orddefnyddio, mae’r ergyd yn pylu rhywfaint. Yn fy marn i, fe fyddai teitl mwy bachog i’r nofel yn well ond efallai bod yr awdur yn credu bod y teitl yn gweddu i naws a chywair y nofel.
Ar y cyfan, mae hon yn nofel ddifyr, yn ysgafn ond â haenau tywyll, yn dystiolaeth o ddawn ddiamheuol Geraint Lewis i gyfuno’r llon a’r lleddf. Yr anrheg ddelfrydol.
Am fwy o wybodaeth am y nofel yma neu i brynu copi cliciwch yma