This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Adolygiad Diwedd y Gân, Rebecca Roberts gan Elin Llwyd Morgan

Adolygiad Diwedd y Gân, Rebecca Roberts gan Elin Llwyd Morgan

Yn sicr, does dim rhaid bod yn berson ifanc nac yn ffan roc trwm i’w mwynhau gan bod yr awdur yn gwybod sut i ddweud stori a chreu cymeriadau byw a chredadwy...

Mae nofel newydd gan Rebecca Roberts wastad yn drît, felly roeddwn i wedi edrych ymlaen at ddarllen y dilyniant hwn i Curiad Gwag, sy’n adrodd y tro annisgwyl ar fyd a ddaw i ran dynes ifanc ddigartref o’r enw Sophie Shaw wedi iddi gael ei phenodi’n Rheolwr Taith i fand roc trwm Konquest.

Tra bod y nofel honno’n un chwrligwgan o hwyl, helynt, serch a strach, tydi bywyd y criw ddim mor wyllt yn Diwedd y Gân, â bywyd yr adroddwraig Sophie (Bates erbyn hyn wedi iddi gymryd cyfenw ei thad enwog hirgolledig) yn dipyn mwy sefydlog, fel ei charwriaeth â Daf, y prif ganwr a chyfansoddwr a gitarydd y band.

Er hynny, perthynas ddigon anodd sydd rhwng Sophie a Jason, sydd fel petai’n gwarafun i’w hanner chwaer am gymryd ei le fel lleisydd ers iddo orfod gadael y band yn sgil ei ddibyniaeth ar gyffuriau. Un arall drwg ei hwyl ydi Osian, cefnder Daf a’r chwaraewr bâs, yn rhannol o bosib am nad ydi Konquest byth wedi llwyddo i gael cytundeb recordio er gwaetha’u hymroddiad a’i gigio caled.

Cymhlethu mae pethau ar ôl eu gig yng Ngŵyl Uffern lle mae dyn A&R – ‘O’i acen dwi’n gwybod mai Hugh nid Huw fydd y sillafiad’ – yn creu rhwyg pellach o fewn y band, er mai yma hefyd y mae Sophie’n cael cyfle i gyfarfod Band Substance, ei hoff fand er pan oedd hi’n 13 oed ac yn symud o un lleoliad maeth i’r llall.

 

‘Gwnâi’r alawon cyfarwydd i mi deimlo’n llai unig ac ansicr. Nhw fu’n gwmni cyson i mi drwy gydol fy arddegau.’

 

Y cyfarfyddiad hwn sy’n arwain at Sophie’n gwahoddiad i’r Unol Daleithiau i recordio efo’i harwyr. Ond fel sy’n digwydd i ambell brif gymeriad arall yr awdur (Gwawr yn Y Defodau, er enghraifft), mae rhywun â’u bryd ar ei phardduo, felly yn ogystal â delio ag adolygiadau creulon mae’n rhaid iddi hefyd amddiffyn ei henw da a darganfod pwy sydd y tu ôl i’r fendeta yn ei herbyn.

 

Er i mi gael cryn flas ar y nofel hon, tydi Diwedd y Gân ddim cweit yr un reid afieithus â Curiad Gwag, ond mae’n debyg bod hynny’n wir am sawl dilyniant. Wedi dweud hynny, mwynheais ddilyn taflwybr bywyd a gyrfa Sophie, a’r cyferbyniad rhwng lleoliadau mor amrywiol â’r Wyddgrug, Paris a Philadelphia.

 

Efallai y byddai wedi bod ar ei hennill gyda llai o fanylion technegol y recordio mewn stiwdio (er y gallai hyn fod at ddant rhai), er i mi fwynhau’r cyferbyniad rhwng lleoliadau mor amrywiol â’r Wyddgrug, Paris a Philadelphia.

 

Yn sicr, does dim rhaid bod yn berson ifanc nac yn ffan roc trwm i’w mwynhau gan bod yr awdur yn gwybod sut i ddweud stori a chreu cymeriadau byw a chredadwy, gan ysgrifennu’r rhwydd a bywiog heb ôl ymdrech (sydd - fel unrhyw grefft sy’n ymddangos yn hawdd - yn gamp ynddo’i hun).

 

Mae un peth yn saff – mae Rebecca Roberts yn dal i hawlio teitl rock chick y sin lenyddol Gymraeg! 

 

 

Am fwy o wybodaeth am y nofel neu i brynu copi cliciwch yma