Teulu: Stori Plant Yr Ysgwrn gan Haf Llewelyn
Mae clawr y llyfr yn cynnig golwg newydd o’r Ysgwrn, fel cartref yn llawn bwrlwm a hwyl plant a byd natur, elfen sy’n aml yn cael ei cholli wrth ganolbwyntio ar hanes Hedd Wyn. Mae’r lluniau sydd yn treiddio drwy’r llyfr yn dod a’r cymeriadau yn fyw, ac yn eich tynnu yn ôl i’r 1930au. Rwyf yn arbennig o hoff o ddyluniad y papur wal y tu ôl i’r gadair sydd yn portreadu yn berffaith sut oedd y parlwr yn edrych, a’r olygfa o ffenest y gegin, gyda’r gacen felen flasus o’i blaen.
Cawn hanes Yr Ysgwrn o bersbectif newydd, ffres a modern. Mae hi’n bwysig ein bod yn cofio am holl gymeriadau’r Ysgwrn, yn enwedig Gerald ac Elsyn a oedd yn rhan annatod o gadwraeth y cartref, a’u bod hwythau wedi profi cyfnodau caled yn eu bywyd wrth golli eu mam a chael eu gwahanu oddi wrth eu brawd a’u chwaer. Rwy’n hoffi yn fawr y gymhariaeth a dreiddia drwy’r llyfr sef Gerald ac Elsyn a’r oen bach. Fel hwythau mae’r oen bach yn amddifad ac yn derbyn cartref yn Yr Ysgwrn. Credaf fod y portreadau llun a disgrifiadol o Nain a Thaid yn effeithiol, wrth gofio am eu haberth a’u cariad. Mae’r fferm yn ganolbwynt i’r stori, sydd yn cyd-fynd â sut yr oedd bywyd tra bu’r teulu’n byw yno. Mae’r llyfr yn cynnig golwg realistig i ni o sut oedd bywyd yn y cyfnod a sut oedd hanes Hedd Wyn yn cael ei gofio a’i warchod. Wrth i Gerald holi ei Nain, cawn ddod i adnabod cymeriad Hedd Wyn, neu Elis fel bardd cefn gwlad a gaiff ei yrru i’r rhyfel. Trawiadol yw disgrifiadau nain o’r Eisteddfod a thaith y gadair yn ôl i Drawsfynydd. Mae diweddglo’r stori yn un hapus wrth i’r oen wella ac i Malo a Reg ddychwelyd i’r Ysgwrn, sydd yn ein hannog ninnau i ymweld â’r cartref.
Mae ail ran y llyfr yn hynod ddefnyddiol a llawn gwybodaeth, a gallai gael ei ddefnyddio fel llawlyfr i gartref y bardd. Rwy’n hoffi yn fawr fod eglurhad yma o beth sydd i’w weld yn Yr Ysgwrn, y byd natur o’i amgylch yn enwedig. Mae’r lluniau a’r disgrifiadau yn dod a stori rhan gyntaf y llyfr yn fyw, wrth i’r ffeithiau gadarnhau a rhoi mwy o gig ar yr asgwrn.
Credaf fod y llyfr yn addas ar gyfer pobl o bob oed, i gael dysgu am hanes Hedd Wyn, y fferm, y byd natur a’r teulu. Credaf ei fod yn llyfryn perffaith i’w gael cyn ac ar ôl ymweld â’r Ysgwrn i gofio am yr hanes, gyda’r ail ran yn gallu cael i ddefnyddio fel llawlyfr i’r amgueddfa.
Byddai’n braf gweld y llyfr yn cael ei ddatblygu ymhellach, boed hynny drwy ei gyfieithu neu i fod yn llyfr dwyieithog i hybu defnydd y Gymraeg.
Mae’r llyfr yn rhoi teyrnged i waith diflino’r teulu wrth warchod Yr Ysgwrn, gan sicrhau fod y stori yn byw am byth.
Glain Eden Williams.