Storis Geraint Iwan Yn Seiliedig Ar Ddychymyg Geraint Iwan gan Geraint Iwan yw teitl y gyfrol hon, sy’n awgrymu fod yr awdur yn barod iawn i hawlio perchnogaeth o’r storis, waeth beth fydd ymateb y darllenwyr.
Fel mae’n digwydd, mae Geraint Iwan yn iawn i fod yn ffyddiog oherwydd mae’n awdur talentog, a daw ei ddawn i’r amlwg o’r cychwyn cyntaf. Mae’r llyfr yn cynnwys naw stori, yn ymwneud â dylanwad cwmni cydwladol cyfrin o’r enw SALEM fydd yn newid y byd.
Mae’r dechreuad yn arbennig, gydag unigolyn mewn tair olygfa wahanol yn yr un lleoliad yn profi’r methiant i ddianc rhag rhywun sy’n eu herlid. Daw’r rheswm yn amlwg wrth i’r stori ddatblygu, gan esbonio un o brosiectau sinistr SALEM.
Mae’r rhan fwyaf o’r straeon, fel hon, yn dibynnu ar syniadau yn hytrach na chymeriadau. Yn wir, mae cymeriadau’r llyfr trwyddi draw yn y straeon sy’n ymwneud â SALEM yn unochrog, sydd i ryw raddau yn anorfod oherwydd gofynion y genre.
Does gan yr ail stori, ‘Pepsi Cola’, ddim cymaint o gysylltiad â gweddill y llyfr. Ond dyma’r stori fer orau imi ei darllen ers tro byd. Mae’n antur ‘canserch’ rhwng William a Clint, sy’n ddoniol, ond hefyd yn dwymgalon a dirdynnol.
Mae gweddill y llyfr hefyd yn llawn syniadau diddorol a heintus. Mae’r pumed stori yn y gyfrol, Arcadia, yn adrodd hanes postman, Rhydian, wrth iddo sylweddoli’n raddol fod stad o dai newydd yn cael ei droi, fesul tipyn, i ymdebygu i greadigaeth Stepford Ira levin. Mae’r stori hon yn dangos dawn yr awdur i greu, cynnal, a datblygu tensiwn mewn ffordd gynnil.
O hynny ymlaen mae cwmni SALEM yn dod yn fwy a mwy grymus ac mae’r awdur yn ei olrhain i ddaeargryn y Bala yn 1974 i gefnogi rhesymeg fewnol y straeon. Mae ymchwil gwyddonol trylwyr gan yr awdur hefyd yn sbarduno diweddglo llinyn storïol SALEM.
Yn anffodus, mae’r stori olaf, yn fy marn i, yn chwalu naws fygythiol, arswydus y gyfrol, sef stori ‘meta’ am selebogs Cymru. Nid ‘Being John Malkovich’ mohoni ond ‘Bod yn Bryn Fôn.’ Serch hynny mae’r syniad o ‘Rhys Gwynfor yn byw yn wyllt ac yn hannar noeth mewn coedwig rownd ochra Machynlleth am dros bythefnos…’ yn apelio’n fawr.
Nid oedd yr epilog yn darbwyllo, ac nid oedd yr esboniad a gynigiwyd i gysylltu’r naw stori yn llwyr argyhoeddi. Serch hynny roedd yn bleser cael y cyfle i ddarllen gwaith llais newydd, unigryw, ac yn arbennig y stori, Pepsi Cola. Mae gan Geraint Iwan lawer i’w gynnig fel awdur ac rwy’n edrych ymlaen at ddarllen mwy o’i waith.
Daniel Davies