This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Adolygiad Y Sgwranog Aur

Adolygiad Y Sgwranog Aur

Pawb. Dyna i chi air bach sy’n cael ei ddefnyddio’n ddiofal! Pwy oedd yn y lle
a’r lle? Pawb! Pwy soniodd am hyn a’r llall? Pawb! Pwy sydd wedi mopio efo
sgwarnogod? Twm Morys, Paddy Donnelly, Elen Williams a fi! Pleser pur oedd
cael bod yn chwech oed unwaith eto ac ymgolli yng nghyfieithiad Elen
Williams o’r llyfr ddaeth i’r brig yn adran y plant bach yng nghystadleuaeth
Llyfr y Flwyddyn yn Iwerddon y llynedd.
Yn y ffilm ‘Aquaballet’ mae blaen bysedd traed y ddawnswraig Marianne
Aventurier yn ysgafn gyffwrdd gwely’r môr ac o’r mymryn cyffro yn y tywod
mae pennau ymchwilgar y llymrïaid lleia’ ‘rioed yn codi, wedyn daw heigiau o
bysgod i gyd ddawnsio, yna siarcod ac yn goron ar y cyfan, morfil.
Profiad tebyg ydy darllen a dilyn antur Mari a’i thaid ar drywydd y sgwarnog
aur. Wyres sy’n tanio cwestiynau ydy Mari. Dyn sydd wedi gweld pob dim ydy
Taid. Mae o wedi nofio efo siarcod, yn dweud wrth Mari mai glas ydy tafod
jiraff ac yn ei hatgoffa nad ydy o hyd yn oed yn ddigon hen i gofio’r
deinosoriaid! Mae hyn i gyd yn digwydd ar y dudalen gyntaf ac mae’r
darllenydd wedi ei rwydo.
Rhwng y gwaith darlunio a’r testun mae’r daith i chwilio am y sgwarnog aur yn
debyg iawn i ddadleniad ‘Aquaballet’, sef un rhyfeddod ar ôl y llall. Daw’r
nico, “fflam felen y goedwig” a chân “bwerus” y dryw bach a slefrod môr sy’n
“andros o hen” i danio’r dychymyg a mynnu dilyn Mari, Taid a Cara (afanc
anwes Taid) ar drywydd y sgwarnog aur.
Mawredd y llyfr ydy’r modd mae awydd oesol un genhedlaeth i rannu profiad a
chyfoethogi’r nesaf yn cael ei ddangos fel grym daioni, fel grym er gwell, ac
mae gwir angen hynny yn y byd sydd ohoni. Cymhellwr ydy Taid, rhoddwr hael
o ran ei amser a’i rodd o lyfr nodiadau, llyfr fydd yn llenwi’n galeidosgôp o
brofiadau byd natur Mari. Llyfr efo sgwarnog aur ar ei glawr. Nid fy lle i ydy
dweud a fu Mari a Taid yn ddigon ffodus i weld sgwarnog aur go iawn, ond
rhaid dweud hyn, mae yna sgwarnog ar bob tudalen. Crefft Paddy Donnelly ydy
cyfleu cymeriad sgwarnogod, weithiau’n gudd haniaethol, dro arall fel haul ar
bost. Mae hynny a’r geiriau cynnes, teimladwy, weithiau’n smala ac ar
amrantiad wedyn y drwm o arwyddocâd yn gwneud hon yn gyfrol hynod. Mae
hi’n llawer mwy na hanes Taid a’i wyres yn mynd am dro. Mae’n rhybudd, ac
yn gysur, ac oes, mae yna’r fath beth a sgwarnog aur! Pwy ddylai ei darllen?
Pawb.

Gerallt Pennant 27 Chwefror 2025