This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

"Chwip o ddilyniant i Curiad Gwag"

"Chwip o ddilyniant i Curiad Gwag"

Yn dilyn llwyddiant Curiad Gwag, nofel yn dilyn hynt a helynt aelodau band roc o’r enw Konquest, mae’r awdures o Brestatyn, Rebecca Roberts, yn cyhoeddi dilyniant i gau pen y mwdwl ar anturiaethau’r band.

Prif gymeriad y nofel yw Sophie, sy’n hanu o Sir y Fflint: rheolwr taith y band ac, ers diwedd Curiad Gwag, eu prif leisydd. Ers diwedd y nofel gyntaf mae’r band wedi bod yn gweithio’n galed yn perfformio a datblygu eu cerddoriaeth, ond tydi’r llwyddiant roedden nhw’n gobeithio amdano ddim wedi digwydd. Yn dilyn sylw negyddol gan gynrychiolydd o label recordio, mae Sophie yn penderfynu dilyn ei llwybr ei hun, a derbyn cynnig cyffrous sy’n mynd â hi ar antur hollol annisgwyl.

Doedd y penderfyniad i sgwennu dilyniant ddim yn un anodd, yn ôl Rebecca; ‘Dechreuais feddwl am stori Sophie a chriw Konquest cyn mynd ar gwrs sgriptio yn Llundain yn 2008, felly maen nhw wedi bod yn fy mhen i ers dros bymtheng mlynedd. Ar ôl cwblhau Curiad Gwag ro’n i’n teimlo bod angen i mi wybod be oedd y band am ei wneud nesaf, felly ro’n i’n falch iawn o gael comisiwn gan Wasg Carreg Gwalch i ysgrifennu’r dilyniant.  Doedd gen i ddim clem ble roedd y cymeriadau am fynd nesaf – roedd parhau â’r daith yn antur newydd sbon, ond roedd ambell edefyn yn weddill o’r llyfr cyntaf…’

Yn y nofel, nod Konquest ydi dominyddu’r byd roc, ond gan fod y nofel wedi’i gosod yn 2006 maen nhw’n dechrau eu gyrfa ar yr union adeg pan oedd miwsig roc a metel wedi stopio bod yn fiwsig prif ffrwd. Her fawr y band yw canfod ffordd i lwyddo, ond hefyd aros yn driw iddyn nhw’u hunain. Mae hyn yn sialens i Sophie yn arbennig, ac yn sbardun i sefyllfa y mae Rebecca yn teimlo’n angerddol yn ei chylch. ‘Un o themâu’r nofel yw’r ffordd mae’r diwydiant miwsig (a’r holl ddiwydiannau celfyddydol, a’r byd adloniant, mewn gwirionedd) yn trin menywod,’ eglura. ‘Wnes i gynddeiriogi ar ddarllen straeon Kesha, Britney Spears, Lady Gaga, Alanis Morisette, Rhianna a’r lleill. Mae’n bwnc anodd sydd, yn anffodus, yn parhau’n berthnasol hyd heddiw. Fodd bynnag, arweiniodd yr archwiliad hwn o ochrau tywyllaf y diwydiant at y sylweddoliad ei bod hi’n bwysig canfod dy dylwyth – y bobl hynny sy’n rhannu ac yn cefnogi dy weledigaeth, ac yn bod yn gefn i ti drwy’r amseroedd anodd sy’n gwneud i ti amau dy hun. Dwi’n gobeithio bydd darllenwyr yn mwynhau parhau â thaith Sophie, a chael rhagor o hynt a helynt Konquest.’

Thema arall y nofel yw'r pwysau ar ferched ifanc i edrych ac ymddwyn mewn ffordd benodol. Mae'r disgwyliadau hynny wedi bodoli ers amser maith, ond gyda dyfodiad y cyfryngau cymdeithasol mae’n anoddach eu hosgoi. Medd Rebecca, ‘Ro’n i am archwilio effaith clywed a theimlo nad wyt ti byth yn ‘ddigon’, a sut y gall hynny arwain at ddiffyg hyder a hunanamheuaeth difrifol. Mae’n thema dwi’n dychwelyd ati’n eitha aml yn fy nofelau achos mae’n rhywbeth sy wedi bod yn frwydr gydol oes i mi’n bersonol – ond i Sophie, mae bod dan y sbotolau ac yn destun sylw digroeso yn ei herio hi i'r eithaf.’

Mae’r nofel wedi’i hanelu at bobl ifanc dros 16 oed, a hynny oherwydd y themâu heriol, fel yr eglura Rebecca. ‘Ro’n i am adlewyrchu diwylliant roc a rôl a phrofiadau bywyd go iawn yn y nofel – mae pobl ifanc (a cherddorion roc) yn defnyddio alcohol a chyffuriau ac yn gwneud pob math o bethau gwirion dan eu dylanwad, ac mi o’n i eisiau taro’r balans cywir o realaeth heb glodfori’r bywyd hwnnw. Mae cymeriadau Diwedd y Gân yn eu hugeiniau cynnar, felly dwi’n gobeithio bydd y stori’n apelio at bobl ifanc o’r un genhedlaeth, ond mae’r stori wedi ei gosod yn 2006/7 felly dwi’n gobeithio y bydd hi hefyd at ddant yr Xennials a’r Gen Xers sydd am ailymweld â’u hieuenctid!

Mae rhestr chware i gyd-fynd â’r nofel wrth ddilyn y ddolen hon: 
Diwedd y Gân - playlist by Rebecca Roberts | Spotify

(Dathliad o ferched y byd roc/metal. Mae themâu’r caneuon yn cyd-fynd â phlot y stori) Gellir gwrando ar restr chwarae Curiad Gwag yma:
Curiad Gwag - playlist by Rebecca Roberts | Spotify

Bydd Diwedd y Gân ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru (£8.99), ar Gwales.com ac ar wefan www.carreg.gwalch.cymru o 1 Mawrth, 2025.