This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Hanes Bywyd Rhyfeddol un o Arloeswyr y Wladfa

Hanes Bywyd Rhyfeddol un o Arloeswyr y Wladfa

"Un o’r gŵyr galluocaf a fu yn y Wladfa nad yw’n cael y sylw mae’n ei haeddu."

Y datganiad hwn gan R. Bryn Williams yw un o’r rhesymau i’r awdur fynd ati i ysgrifennu’r gyfrol hon. Hynny a’r ffaith iddo sylweddoli’n ddiweddar bod Richard Jones Berwyn yn frodor o Ddyffryn Ceiriog fel yntau, heb iddo ddeall hynny nes i’r Athro Bill Jones, Prifysgol Caerdydd, draddodi darlith yn y Dyffryn am wrthych y gyfrol. Cofnodwyd enw Berwyn ar restr teithwyr y Mimosa fel un o Efrog Newydd - ond buan iawn y daethpwyd i ddeall mai wedi ymfudo yno o Ddyffryn Ceiriog yr oedd. Cynyddodd diddordeb Graham Edwards yn hanes Berwyn, a theimla nad oes digon o bobl yn gwybod hanes y gŵr rhyfeddol hwn. Bu ar ddau ymweliad â’r Wladfa a chyfarfod â disgynyddion niferus Berwyn, a gyda sêl eu bendith, aeth ati i ymchwilio’n drylwyr i’w hanes gyda chymorth cyfeillion o’r Wladfa, ac yma yng Nghymru.

Canlyniad yr holl waith ymchwil yw’r gyfrol ddifyr hon, sy’n mynd drwy wahanol gyfnodau ym mywyd Berwyn, gan fanylu ar ei holl weithgarwch cyhoeddus a’i fywyd teuluol mewn modd darllenadwy iawn. Cawn wybod am gyfraniad allweddol Berwyn i fywyd y Cymry cyntaf a laniodd yn Mhorth Madryn, gan roi golwg ar yr holl swyddi a fu ganddo, ac am y gwasanaeth gwirfoddol a roddodd i sicrhau ffyniant y Gwladfawyr. Ni fyddem yn gwybod hanner gymaint am y daith ar y Mimosa, yr ansicrwydd wrth lanio ym Mhorth Madryn, na’r caledi wrth geisio ennill eu tir a chychwyn ffermio heb gofnodion manwl Berwyn. 

Hoffodd Graham Edwards y ffaith nad anghofiodd Berwyn am fro ei febyd chwaith, a cheir enghreifftiau yn y gyfrol o’i lythyrau cyson i’w deulu ac i’r wasg yng Nghymru yn adrodd hanes yr ymfudwyr, ac yn annog y Cymry oedd ar ôl i ysgrifennu atynt hwythau yn y Wladfa gyda newyddion o’r hen wlad er mwyn lleddfu eu hiraeth. Trywydd diddorol arall yn y gyfrol yw cysylltiad Berwyn â Neuadd Goffa Ceiriog a’i gyfraniad tuag ati. 

Cyfunir yr hanes manwl am y gŵr amryddawn, bonheddig a chymwynasgar hwn gyda ffotograffau o gymeriadau ac o ddogfennau gwreiddiol sy’n cyfoethogi’r darlun ohono. Y gobaith yw y bydd y darllenwyr yn dysgu am un o’r ffigyrau a gyfrannodd fwyaf tuag at oroesiad y criw cyntaf o Gymry i gyrraedd i’r Wladfa ar y Mimosa ym 1865, sydd wedi bod yn weddol anhysbys hyd yma, ac yn gwerthfawrogi ei gyfraniad amhrisiadwy i ffyniant bywyd Cymreig y Wladfa fel ag y mae heddiw. 

Bydd Richard Jones Berwyn ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru, ar Fawrth 1af, ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg.gwalch.cymru a gwefan y Cyngor Llyfrau, www.gwales.com.