This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Cyhoeddi nofel ddiweddaraf Geraint Lewis

Cyhoeddi nofel ddiweddaraf Geraint Lewis

Mae antur a dirgelwch yn ganolog i nofel newydd Geraint Lewis, ynghyd â dogn helaeth o hiwmor crafog.

Dau gyfaill bore oes yw Haydn a Rhys, sydd wedi teithio o Geredigion i Ynys Môn er mwyn profi damcaniaeth Haydn fod ei fab yng nghyfraith yn cael affêr. Wrth iddyn nhw gynnal eu stake-out mewn maes carafannau ar yr arfordir, cawn wybod mwy am gwrs bywyd y ddau, a darganfod eu bod yn cadw sawl cyfrinach dyngedfennol rhag ei gilydd.

‘O’n i wedi sylwi nad oedd yna fawr o nofelau yn sôn am ddynion yn eu saithdegau,’ eglura’r awdur. ‘Mae rhywun yn ei saithdegau wedi gweld cryn dipyn o newidiadau yn ei fywyd ac roedd potensial hynny’n apelio ata i. Roedd cael dau gymeriad hŷn yn rhoi cynfas eang i mi archwilio gwahanol gyfnodau yn hanes Cymru hefyd. Wrth i’r stori ailymweld ag ambell ddigwyddiad arwyddocaol ym mhob degawd ro’n ni’n raddol sylweddoli fod bywydau Haydn a Rhys wedi eu clymu ynghyd mewn ffordd beryglus. Ac roedd hynny’n ddiddorol i mi hefyd, y ffordd mae cyfeillgarwch hir yn gallu bod mor gymhleth.'

Roedd hiwmor Geraint i’w weld yma ac acw yn ei gyfrol Cofiwch Olchi Dwylo a Negeseuon Eraill, casgliad o straeon wedi’u gosod ar arfordir Ceredigion yn ystod pandemig Covid 19, cyn iddo fynd ar drywydd mwy dwys gyda Lloerig (2022) oedd yn portreadu mam a gollodd ei mab i hunanladdiad.

‘Ar ôl ysgrifennu Lloerig roedd gen i awydd cryf i fynd yn ôl i ’ngwreiddiau cynnar iawn fel ysgrifennwr comedi eironig, tafod mewn boch – yn debyg i’r hyn wnes i â ’nghyfres Slac yn Dynn i S4C yn niwedd y 1980au. O’n i’n gobeithio y byddai’r hiwmor tywyll vigilante sydd yn Haydn a Rhys yn debyg o ran cywair i’m drama lwyfan Ysbryd Beca, a oedd hefyd â stake-out yn gefndir iddi.’

Wrth ddewis sgrifennu am Haydn a Rhys – adeiladwr a dyn busnes wedi ymddeol –gobaith Geraint oedd cyffwrdd â themâu fel cyfeillgarwch, heneiddio, cryfder a diffyg cyfaddawdu. Mae’r nofel yn llawn antur a dirgelwch, ond yn ôl yr awdur, ‘yn anad dim o’n i am wau stori ysgafn sy’n tanlinellu pwysigrwydd cyfrinachau ym mywydau pobl ... a pham y dylai rhai cyfrinachau aros felly.’

Mae Haydn a Rhys ar werth ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com. Cynhelir lansiad yng Ngwesty’r Plu, Aberaeron, Nos Fawrth 10 Rhagfyr 7.00 – 8.30yh.