This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Dirprwyaeth Cyhoeddwyr Cymru yn cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Diwylliant yn Senedd Cymru

Dirprwyaeth Cyhoeddwyr Cymru yn cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Diwylliant yn Senedd Cymru

Mae un o gyfarwyddwyr Gwasg Carreg Gwalch yn ymuno gydag aelodau eraill o Gyhoeddwyr Cymru o flaen Pwyllgor Diwylliant Senedd Cymru y pnawn yma. Bydd yn gyfle i’r gweisg ddarlunio effaith toriadau o 25% sydd wedi bod yng nghyllideb a nifer y llyfrau sy’n cael eu cyhoeddi yng Nghymru ers Ebrill eleni.

Yn y cyfarfod, bydd gan y cyhoeddwyr gyfle i esbonio effaith y toriadau ar arian cyhoeddi ar lythrennedd ac addysg plant, gan argymell meysydd lle y gall Llywodraeth Cymru weithredu ar fyrder i unioni’r toriadau, sydd wedi dod ar ben cyfnod o lymder sy’n ymestyn yn ôl i 2010.

Mae ymgyrch daer wedi bod gennym ym maes llythrennedd plant ers mis Mawrth – ac mae’n adeg da i’r ffeithiau hyn weld golau dydd yn y wasg.