
Mae Deffro Awydd Darllen yn brosiect gan Wasg Carreg Gwalch i annog rhieni ac oedolion eraill i ailddarganfod yr hwyl a’r pleser sydd i’w gael wrth rannu llyfr gyda phlant.
Nid rhywbeth ar gyfer ysgolion neu sesiynnau mewn llyfrgelloedd yn unig yw rhannu llyfr a darllen stori. Mae Stori Cyn Cysgu gan rieni, stori gan Taid/neu gan Mam-gu neu yn y feithrinfa neu’r lle gwarchod yn rhoi pleser di- ben-draw i blant – ac i oedolion yn ogystal.
Mae’n fwy na dim ond darllen. Mae’n brofiad cynnes lle gall y dychymyg ymestyn a chynyddu diddordebau.
Bydd y cylchgrawn, gyda thudalennau yn cynnwys ein catalog gaeaf, ar gael o'ch siopau llyfrau Cymraeg lleol o 1 Hydref ymlaen.
Dilynwch y ddolen hon i ddysgu mwy am yr ymgyrch genedlaethol dros lythrennedd Cymraeg.