
Dyma grynodeb o’r digwyddiadau cyffrous y bydd awduron a golygyddion Gwasg Carreg Gwalch yn ymddangos ynddyn nhw eleni! Dewch i ymuno yn y trafodaethau, lansiadau a darlleniadau arbennig.
Dydd Sul, 3 Awst
🕥 10.30yb – Rebecca Roberts
Pwy sy’n dal i ddarllen llyfrau?
Sut mae gwneud darllen yn cŵl unwaith eto? Trafodaeth dan gadeiryddiaeth Bethan Mair Ellis ar ddiffyg diddordeb mewn darllen, yn enwedig ymysg pobl ifanc. Bydd Rebecca Roberts, Shoned Davies, Holly Gierke ac Einir Lois Jones yn ymuno â disgyblion lleol ar gyfer y sgwrs hon.
📍 Lleoliad: Y Babell Lên
🕒 3.00yp – Aled Lewis Evans
Sgwrs gyda Nia Roberts am ei gyfrol Tre Terfyn – portread llachar o dref ar y ffin.
📍 Lleoliad: Stondin Siop Cwlwm (Rhif 312–314)
Dydd Llun, 4 Awst
🕥 10.30yb – Tu Hwnt i Goron, Cadair neu Fedal
Trafodaeth banel am lwyddiant awduron nad enillodd ond a ddaeth yn agos yn y cystadlaethau llenyddol.
Yn cynrychioli Carreg Gwalch: Rolant Tomos a Nia Roberts
📍 Lleoliad: Y Babell Lên
🕦 11.30yb – Graham Edwards
Trafodaeth ar ei gyfrol Richard Jones Berwyn – Hanes Rhyfeddol Un o Arloeswyr y Wladfa.
📍 Lleoliad: Pabell Cymru Ariannin
🕐 1.00yp – Eleanor Burnham
Lansiad ei hunangofiant Y Pethau Bychain.
📍 Lleoliad: Stondin Merched y Wawr
🕑 2.00yp – Branwen Glyn
Lansiad y nofel i ddysgwyr Madog.
📍 Lleoliad: Pabell y Mentrau Iaith
🕑 3.30yp – Rolant Tomos
Bydd Rolant Tomos yn Llofnodi copïau o'i nofel i bobl ifanc, Meirw Byw
📍 Lleoliad: Stondin Siop Inc (611-612)
Dydd Mercher, 6 Awst
🕚 11.00yb – Myfanwy Alexander
Lansiad y gyfrol Cath Fenthyg.
📍 Lleoliad: Stondin Siop Cwlwm (Rhif 312–314)
🕝 2.45yp – Llenyddiaeth Oedolion Newydd yn Gymraeg
Mari Siôn yn holi awduron gan gynnwys Rebecca Roberts a Non Mererid am eu cyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg ar gyfer oedolion sy'n dysgu'r iaith.
📍 Lleoliad: Y Babell Lên
🕓 4.00yp – Fflamau’r Ffin
Cyflwyniad ar lafar ac ar gân gan Ferched y Wawr Glyn Maelor. Yn cynnwys darlleniadau o Tre Terfyn gan Aled Lewis Evans.
📍 Lleoliad: Y Stiwdio
Dydd Iau, 7 Awst
🕝 2.30yp – Barddoniaeth gan y Dysgwyr
Sesiwn arbennig gyda Myrddin ap Dafydd. Rhagflas o benwythnos creadigol yn y Nant, gyda’r nod o ysbrydoli dysgwyr i gyfansoddi a chyhoeddi eu gwaith.
📍 Lleoliad: Pabell Nant Gwrtheyrn