
Dyma stori am gyfeillgarwch, galar a’r trafferthion o dyfu i fyny: ond er gwaethaf hyn i gyd gall bywyd fod yn llawn prydferthwch, os ydych chi’n fodlon cymryd cipolwg o dan yr wyneb.
Mae Gwen a’i theulu newydd symud i Gricieth ac mae hi’n cael trafferth setlo yn yr ysgol uwchradd. Er ei bod hi’n un o’r nofwyr gorau yn ei hysgol yng Nghaerdydd; bu i ddamwain angheuol ei ffrind ei gadael yn ddihyder yn y pwll. Ar ben hynny, dydy’r merched ‘poblogaidd’ sy’n pigo arni hi yn ddim help i’w hwyliau.
Ond wrth iddi wneud gwaith ymchwil ar gyfer prosiect gwyddoniaeth ar lan y môr daw Gwen ar draws môr forwyn ifanc o’r enw Arianrhod. Mae’r ddwy yn deall ei gilydd yn syth ac o’r diwedd mae Gwen yn teimlo fod ganddi ffrind yn ei hardal newydd!
Mae Lleucu Gwenllian wedi darlunio sawl cyfrol i blant; ond dyma’i nofel graffig gyntaf. Bu’r syniad o greu nofel graffig wreiddiol Gymraeg yn cyniwair ganddi ers tro ac mae hi’n sicr wedi llwyddo i drosgwlyddo’r hyn oedd ganddi mewn golwg i fod yn stori arbennig fydd yn cydio yn nychymyg eraill.
“Dyma gyfrol yr ydym ni yn y wasg wedi bod yn gyffrous iawn amdani ers tro,” meddai Elen Williams golygydd llyfrau plant y wasg “Wrth i ni ymchwilio i’r hyn sy’n cynyddu llythrennedd plant; daeth yn amlwg fod nofelau graffig yn llawn manteision ac yn gofyn am sgiliau darllen unigryw. Yn ôl ymchwil ar wefan United through Reading mae nofelau graffig yn cynyddu geirfa a sgiliau dadansoddi gan fod yn rhaid i’r darllenydd ddehongli’r lluniau yn ogystal â’r testun er mwyn deall y plot. Maent yn cynnig eu hunain fel pont i ddarllenwyr anfoddog. Y syniad yw fod darllenwyr cyndyn yn llawer mwy tebygol o godi’r nofelau graffig yn hytrach na’r nofelau traddodiadol (all ymddangos yn heriol) ac felly’n meithrin yr arfer o ddarllen drwy gyfrwng gwahanol.”
Bydd gweithgareddau am ddim i’w gwneud yn y cartref neu yn y dosbarth yn cyd-fynd â’r gyfrol ar wefan Gwasg Carreg Gwalch ac mae croeso i unrhyw un gysylltu os yn awyddus am ‘sesiwn stori’ o’r gyfrol gan un o’r golygyddion.
Bydd hefyd yn ymddangos yn Llyfr y Mis i Blant Cymraeg ar gyfer mis Mai.
Bydd Gwen ac Arianrhod ar werth Ebrill 25 ymlaen mewn siopau llyfrau ledled Cymru ac ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg-gwalch.cymru a gwefan y Cyngor Llyfrau, www.gwales.com.