This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Diolch Dewi! Ffrindiau’n Cofio

Diolch Dewi! Ffrindiau’n Cofio

Ni fu erioed yr un gyfrol goffa debyg iddi. Ond dyna ni, dim ond un Dewi Pws oedd yna.

Mae dros hanner cant o ffrindiau wedi sgwennu ysgrifau a cherddi i’w cyfrannu i’r gyfrol. Mae’r cyfan yn cofnodi cerrig milltir daearyddol ei fywyd – Treboeth a gwersyl-loedd yr Urdd, stiwdios Caerdydd a thafarnau Glannau Menai, meysydd golff a Thre-saith a lleoliadau braf yn Llŷn.

Drwy’r cyfan – yn arbennig yn yr adran o doriadau o bapurau bro – cawn y teimlad cynnes fod Dewi yn perthyn i Gymru gyfan.

Mae’r sgwenwyr wedi creu darluniau cofiadwy a phersonol ohono mewn cyflwyniadau hynod o amrywiol. Ar ben hynny mae yma gasgliad difyr ac amlochrog o luniau o’r gwahanol gyfnodau.

‘Go brin bod neb wedi gadael y fath drysorfa o atgofion amrywiol ar ei ôl’, fel y dywed Dafydd Iwan.

Bydd Diolch Dewi! – Ffrindiau’n Cofio ar werth ar 1 Mai mewn siopau llyfrau ledled Cymru, ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg.gwalch.cymru a gwefan y Cyngor Llyfrau, www.gwales.com.