Mae Sioned Erin Hughes yn wedi bod yn holi am brofiadau bywyd Cymry sydd bellach yn byw dramor. Cymry sy'n cadw'r Gymraeg ar yr aelwyd ac o hynny, yn ei throsglwyddo i'w plant.
Meddai Erin: ‘Mae rhywun yn ennill cymaint drwy glywed stori rhywun arall, ond mae'r profiad hwn wedi bod yn un heb ei ail. Diolch i'r holl deuluoedd am fod mor hael wrth rannu hyd a lled eu straeon efo fi, mae'r holl brofiad wedi teimlo'n gymaint o fraint o'r dechrau hyd y diwedd.’
Ond pam mynd ati i gyhoeddi llyfr o’r fath? Roedd Erin yn obeithiol bod yna lawer y gallwn ni, fel Cymry ar dir Cymru, ei ddysgu gan Gymry sy'n byw dramor. A dyna'r gair pwysig sy'n dal hanfod y gyfrol hon: gobaith. I iaith leiafrifol, gobaith ydi bob dim. Ac o! mae gobaith yn tywynnu rhwng y tudalennau yma. Byddwch yn darllen am hanesion y teuluoedd ac yn eu hedmygu am eu hangerdd wrth wynebu talcenni caled, a byddwch hefyd yn siŵr o lawenhau gyda nhw wrth weld eu hymdrech i gadw'r Gymraeg yn fyw yn y cartref yn talu ar ei chanfed.
“Mae’r llyfr hwn, yn ogystal â bod yn ddifyr i’w ddarllen, yn haeddu sylw arbennig gan unrhyw rai sy’n ymwneud â hyrwyddo’r iaith yng Nghymru. Gyda phwyslais cynyddol ar drosglwyddo’r Gymraeg yn y cartref fel ffactor allweddol wrth gaffael iaith, mae pob un o’r teuluoedd hyn yn cynnig astudiaethau achos gwerthfawr i bawb sy’n gweithio yn y maes.” (Huw Prys Jones, adolygydd)
Yn y gyfrol hon mae Erin yn cyfweld rhieni o bob oed, o bob cefndir, a'u plant hefyd o oedran amrywiol, a hynny yn Y Wladfa, Belfast, Washington DC, Slofacia, Awstralia, Y Swistir, Brwsel, De Affrica, Gwlad Pwyl, Montreal, Seland Newydd, a Hong Kong!
Meddai Huw Prys Jones yn ei adolygiad: Un o gryfderau mawr y llyfr yw ei onestrwydd. Does ynddo ddim rhamantu na hunan-dwyll ei bod yn hawdd magu plant i siarad Cymraeg, ac mae amryw o rieni, yn enwedig rhieni’r plant lleiaf, yn mynegi pryder am y graddau y byddant yn dal gafael ar yr iaith a’i defnyddio wrth iddynt fynd yn hŷn.
Caiff cwestiynau mawr eu hystyried yn y gyfrol, felly wrth ei darllen gobeithio y byddwch chi hefyd yn gallu ystyried beth ydi hanfod iaith, yr her sydd yn rhan o’i chadw ar aelwydydd tramor, a beth fyddai pobl heb iaith.
“Mae’r gyfrol hon yn gwneud cyfraniad pwysig at ddatblygu gwell dealltwriaeth yn ein mysg at ein cyd-Gymry sy’n byw dramor.” Meddai Huw Prys Jones eto.
Lluniwyd y clawr ar gyfer y gyfrol gan Tanwen Haf o Gyngor Llyfrau Cymru, ac mae’r lluniau personol sydd wedi eu rhannu gan y teuluoedd yn dangos digwyddiadau o bwys iddyn nhw, gan ychwanegu at yr hyn maent yn ei rannu mewn geiriau. Mae’r lliwiau a’r delweddau yn denu’r llygaid, yn rhoi golwg ar fywydau’r teuluoedd ac yn rhoi blas o’r wledd sydd rhwng y cloriau.
Fel cyfanwaith, caiff angerdd, brwdfrydedd a holl deimladau’r cyfranwyr eu cyfleu yn fanwl a sensitif yn y gyfrol arbennig hon.
Bydd Iaith Heb Ffiniau, Magu’r Gymraeg Dramor ar gael ym mis Gorffennaf 2024 ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com.