This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Rhagor o flas ar dafodieithoedd Cymru

Rhagor o flas ar dafodieithoedd Cymru

Dyma’r pedwerydd llyfr yn y gyfres boblogaidd ‘Amrywiaith’. Mae’r awdur, sy’n hanesydd ac yn ieithydd, yn trafod dwsinau lawer o eiriau ac ymadroddion Cymraeg, ac yn tyrchu’n ddwfn i’w hanes. Craidd pob trafodaeth yw sgwrs a gafwyd ar y grŵp Facebook ‘Iaith’ – un sydd bellach â thros 17,500 o aelodau. A wyddoch chi lle mae Feelin Sick neu Jelly Wasted neu Land of Frogs yma yng Nghymru lân? Wyddoch chi beth ydi chwimiad neu ‘chud’ neu talmaen? Beth yw hoff ddiarhebion y Cymry? Beth yw ystyr y tects hyn: DYFI, DYG, MOM, PMC, DIG, BYO? Sut fyddech chi’n cyfieithu ‘Oes ’na law ar dy lo ac ar dy foch?’?. O ble daw’r geiriau corryn a pry’ cop?

Mae yma gyfoeth o sgyrsiau am Gymraeg llafar byrlymus heddiw, ambell un ddigon mentrus? Ac mae hanesion difyr ac ysgolheigaidd am darddiad y geiriau hyn sy’n eu cysylltu ag ieithoedd fel Lladin, Saesneg a Groeg. Wyddech chi mai’r un gair, yn ôl pob tebyg, yw danadl a ‘nettle’, neu a oedd yr arweinydd gwrthrufeinig Calgacos yn ddyn caliog?

Dyma lyfr i bori ynddo’n gyson neu un i’w ddarllen o glawr i glawr – ffrwyth cannoedd o sylwadau o bob twll a chornel yng Nghymru, a phori dwys mewn llyfrau academaidd. Mae rhywbeth at ddant pawb yma.

Mae yma drafodaethau am bob math o agweddau ar Gymraeg heddiw, geiriau, hanesion, idiomau, dywediadau... o’r ysgolheigaidd i’r mwy mentrus! Mae’r cyfraniadau oll yn deillio a sgyrsiau a gafwyd ar y grŵp Facebook Iaith, sydd â 17,400 o aelodau. Sut fyddech chi’n dehongli’r frawddeg ganlynol? ‘Oes ‘na law ar dy lo ac ar dy foch?’ Ai corryn ynteu pry cop(yn) yw’r creadur bach heglog hwnnw sy’n llechu ym mannau tywyll y tyˆ? Sut mae Hwntws a Gogs yn rhegi ac yn diawlio? Wyddech chi mai’r un gair, yn hanesyddol, yw ffon a ‘spoon’? Beth yw perthyn gwaed chwannen? Ym mha dai tafarnau yng Nghymru ydych chi’n debygol o allu sgwrsio yn Gymraeg? Wyddoch chi ymhle yng Nghymru mae Abbey Come Here!, Bryn Legless, Abba Wristwatch, Crimewatch, Fronty Silty, Minor chocca a logga doo neu I Strangled Alice? Mae yma ddegau a degau o drafodaethau difyr a hwyliog am gyfoeth a bwrlwm ein hiaith bob dydd. A phob tro, ar ôl crynhoi a thrafod cyfraniadau’r cyhoedd, bydd yr awdur yn ychwanegu pwt am hanes a tharddiad y geiriau.

Mae AmrywIAITH 4 ar gael ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com.