This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Talu’r pwyth yn ôl am foddi Capel Celyn

Talu’r pwyth yn ôl am foddi Capel Celyn

Nofel gyntaf yr awdur a’r athro Pryderi Gwyn Jones i oedolion.

Mae nofel gyntaf yr awdur a’r athro Pryderi Gwyn Jones i oedolion yn plethu realiti a ffantasi i’r eithaf, ac yn tyrchu i hanes Cymru wrth wneud hynny. Mae Hei Fidel! yn dilyn Jones, athro canol oed cyffredin sy’n dipyn o freuddwydiwr, wrth iddo gael ei dynnu i mewn i gynllun uchelgeisiol i dalu’r pwyth yn ôl i ddinas Lerpwl am greu Llyn Celyn.

Medd yr awdur, ‘Mae’n debyg mai dysgu hanes boddi Capel Celyn ac arwyddocâd graffiti “Cofiwch Dryweryn” i’r digyblion dwi’n eu dysgu sydd wrth wraidd y nofel hon. Arweiniodd hynny at dyrchu i’r hanes hwnnw, a’r canlyniad oedd dod at y syniad o ddial ar ddinas Lerpwl am ei chamweddau, er gwaethaf yr ymddiheuriad flynyddoedd maith yn ddiweddarach.’

Mae’r nofel yn neidio’n ôl a ’mlaen rhwng gorffennol gwych Jones a’r presennol, sy’n anodd iddo ar brydiau. Dyn teulu ydy Jones, gŵr a thad annwyl ac athro bach prysur. Mae’n gwneud ei orau i helpu ei wraig a’i blant ac i gadw at y drefn ond mae rhan ohono, wrth feddwl am Gymru, yn crefu am wrthryfela, am wneud aberth dros ei wlad fel y gwnaeth ei holl arwyr o’i flaen. Pan gaiff Jones chydig o lonydd, mae’n meithrin perthynas ryfeddol gyda mawrion y genedl – cymeriadau hollbwysig yn hanes a chwedloniaeth ein gwlad, yn cynnwys Aneirin, Taliesin, Bendigeidfran, Ceridwen y wrach, Owain Glyndŵr, William Williams Pantycelyn, Mari Fawr Trelech a Iolo Morganwg. Yn ogystal â’r mawrion o Gymry daw Jones hefyd yn ffrindiau â phobl fyd-enwog megis Che Guevara, Bob Marley, Einstein ac Oppenheimer ... heb anghofio’r arch-chwyldroadwr, Fidel Castro.

‘Mae ’na dri byd yn y nofel’ eglura’r awdur, ‘y gorffennol gwych, y presennol prysur a’r gwrthryfela arwrol. Dyma sy’n gyrru’r nofel yn ei blaen ar ras wyllt.’

Bydd Hei Fidel! yn cael ei lansio ym mis Medi. Manylion llawn i ddilyn.

Mae'r nofel ar gael mewn siopau llyfrau ledled Cymru, ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg.gwalch.cymru a gwefan y Cyngor Llyfrau, www.gwales.com