Mae llyfr newydd Rhian Cadwaladr yn anrheg Nadolig arbennig i’w roi yn hosan y rhai bach yn eich bywydau, ac mae darluniau bendigedig Leri Tecwyn yn llawn ysbryd yr ŵyl ac yn siŵr o roi gwên ar wyneb pob un.
Mae’r gyfrol yn ein tywys drwy’r profiad o addurno’r goeden gan ganolbwyntio ar rifau a lliwiau. Dyma ffordd hwyliog i ddechrau dysgu cyfri gyda’r rhai bach a chyfle iddynt ddechrau adnabod lliwiau.
Graddiodd Leri Tecwyn yn 2014 ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ac mae hi wedi mynd ymlaen i fod yn rhan o sawl prosiect cyffrous ers hynny. Bellach mae hi’n dylunio setiau ar gyfer rhaglenni teledu a gwyliau arbennig. Bu’n gweithio ar set The Spanish Princess 2 a Bridgerton i enwi ond rhai. Mae hi wedi cyhoeddi llyfrau gyda’i mam yn barod, sef y gyfres bobologaidd 'Ynyr yr Ysbryd’.
Bydd cyfle i glywed yr awdur, Rhian Cadwaladr, yn darllen y stori yn Nhyddyn Sachau, Y Ffôr, ar Rhagfyr 15fed am 2 o’r gloch. Bydd Sion Corn yno hefyd felly dewch yn llu!
“Dyma gyfrol fendigedig sy’n sicr yn haeddu lle dan y goeden eleni,” meddai Elen Williams golygydd llyfrau plant y wasg “Stori i’w mwynhau gyda’r rhai bach sy’n gyffrous adeg y Nadolig ac angen stori fach i’w setlo cyn mynd i’r gwely!”
Mae Y Goeden Nadolig Orau Erioed ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru ac ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg-gwalch.cymru a gwefan y Cyngor Llyfrau, www.gwales.com
This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.