This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Sgwrs Dan y Lloer: Cip tu ôl i’r llen

Sgwrs Dan y Lloer: Cip tu ôl i’r llen

Sgwrs Dan y Lloer yw un o gyfresi mwyaf poblogaidd y cyfnod ôl-Covid ar S4C, ac mae llyfr newydd yn dathlu llwyddiannau’r gyfres dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Marlyn Samuel ac Elin Fflur yw’r awduron, ac yn ôl Marlyn mi gafodd gryn fwynhad o’r gwaith. ‘A finnau'n wyliwr ffyddlon o'r gyfres beth bynnag, pleser pur oedd cael y cyfle arbennig i holi rhai o westeion y gyfres ar gyfer y llyfr,’ meddai. ‘Roedd pawb yn fwy na bodlon i gael  sgwrs efo fi ynglŷn â'r profiad o fod ar y rhaglen, ac un peth roedd pawb yn ei ddweud wrtha i oedd cymaint roedden nhw wedi mwynhau cael sgwrs efo Elin o dan y lloer.’  

Cafodd Elin Fflur hefyd bleser o’r profiad: ‘Mae wedi bod yn fendigedig cael amser i ail-fyw rhai o’r sgyrsiau ar gyfer creu’r llyfr. Dwi wedi cael fy atgoffa pa mor lwcus ydw i i gael cyfweld rhai o fawrion ein cenedl – mae’n fraint o’r mwyaf cael gwneud y swydd hon! Mi fydd y gyfrol yn amhrisiadwy i mi’n bersonol, ond bydd hefyd, gobeithio, yn ddifyr i’r darllenydd gael cip bach tu ôl i’r llen ar y gyfres.’


Prosiect ar y cyd rhwng Gwasg Carreg Gwalch a chwmni teledu Tinopolis, sy’n cynhyrchu’r rhaglen Sgwrs Dan y Lloer, ydi’r llyfr hwn, gyda’r tîm cynhyrchu’n cyfrannu nifer helaeth o’r lluniau i’r gyfrol hardd, liw llawn. Maent hefyd yn rhannu eu profiadau o weithio ar y cyfresi yn ystod y cyfnodau clo Covid, pan oedd y byd darlledu yn ddiwydiant gwahanol iawn, a phawb yn gorfod cadw pellter o ddau fetr oddi wrth ei gilydd. Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys cipolwg ar y gyfres newydd o Sgwrs Dan y Lloer, sy’n cael ei darlledu ar S4C o 2 Rhagfyr ymlaen.

‘Nid yn aml mae cyfres deledu yn arwain at lyfr, ond mae’n rhoi balchder mawr i ni yng nghwmni Tinopolis fod y gyfrol Sgwrs Dan y Lloer nawr ar gael i’w mwynhau. Mae’n gasgliad arbennig iawn o gyfweliadau, a’r rhain nid yn unig yn adlewyrchu pa mor wych oedd y sgyrsiau gwreiddiol, ond mae’r gyfrol ei hun hefyd yn un brydferth a hawdd ei darllen. Llyfr fydd yn sicr yn apelio at bawb.’

Angharad Mair, Tinopolis

Bydd Sgwrs Dan y Lloer ar werth ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com, o 25 Tachwedd 2024.