This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Mae'r fferm ar ei thîn a'r banc ar ei chefn. Mae ei dad Ifor yn dioddef o iselder a'i fam wedi hen ddiflannu – dim ond Bleddyn (16) sy'n cadw'r blaidd o'r drws. Wrth ddilyn oen coll mewn hen gloddfa daw Bleddyn wyneb yn wyneb a haid o Flaidd-ddynion. Mae ar fin cael ei fwyta cyn i Frenhines y Bleiddiaid atal y wledd – am fod Bleddyn yn fab iddi.
‘Mae cymaint o haenau i’r nofel grefftus hon – y digrif a’r gwallgof, y dwys a’r anodd.’ – Haf Llewelyn
- ISBN: 9781845279783
- Cyhoeddi: Hydref 2025
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 180 tudalen
RAAARR gan Haf Llewelyn
Oes yna fleiddiaid o gwmpas lle rydych chi’n byw? Na? Peidiwch bod yn rhy siŵr! Ond mi ddown yn ôl at hynny eto. Dyma nofel ddifyr, llawn antur am Bleddyn a'i drafferthion. Mae Bleddyn druan yn gorfod wynebu heriau bywyd ysgol, dydy o ddim yn debyg o gael ei wahodd i barti gwych Mari, Bari a Gari gan nad ydy o a'i ddau ffrind yn ddigon cŵl. Byw ar y cyrion maen nhw, ac wrth i'r nofel afaelgar hon ruo yn ei blaen, mi ddown i ddeall pam mai pobl ifanc y cyrion ydyn nhw.
Nid yn unig mae Bleddyn yn gorfod wynebu wyau a blawd ei gyd-ddisgyblion a'u gwatwar, ar ddiwedd y tymor ysgol, mae yna bethau eraill, llawer mwy sinistr, yn ei fygwth ef a’i dad a dyfodol eu fferm. Rhywle yng nghanol mynyddoedd Meirionnydd, mae rhywbeth gwerthfawr i'w ddarganfod - aur. Mae'n dal yno yn nhwneli'r hen weithfeydd, ac wrth gwrs mae yna sawl cymeriad lliwgar iawn, fel Dannedd Aur a'r rheolwr banc Radcliffe, a'u bryd ar gael eu crafangau arno. Mae'r fferm mewn perygl, y fferm fu'n gartref i deulu Bleddyn ers cenedlaethau, a chan nad ydy ei dad, Ifor yn ddigon iach i wneud dim i helpu, rhaid i Bleddyn gadw'r blaidd o'r drws (yn llythrennol felly weithiau). Bleddyn gyda help Low a Cel y ddau ffrind gwallgof... a rhywun, neu rywrai ychydig yn fwy ffyrnig efallai.
Dyma nofel ddigrif ac anturus, fydd yn apelio'n fawr at bobl ifanc ac ychydig yn hŷn hefyd, rhai sydd o bosibl yn cofio pan fyddai bleiddiaid yn crwydro bryniau Cymru, amser maith a mwy yn ôl. Ond pwy all brofi nad oes ambell flaidd yn dal yn ein mysg ni heddiw. Beth sy'n digwydd i ni wrth i ni symud o blentyndod a phrifio? Mae'r corff a'r meddwl yn newid, ac efallai y gall ambell beth go ryfedd ddigwydd, pwy a ŵyr!
Mae yma ddigon i gnoi cil arno yn y nofel hon, weithia'n ddigrif, dro arall yn ddwys, wrth i ni ystyried heriau tyfu i fyny, sut rydan ni'n 'ffitio' gyda'n cyfoedion ac oes raid i ni 'ffitio'? Sut mae ymdopi pan nad ydy bywyd cartref yn syml nac yn hawdd, pan mae rolau yn newid a phlentyn yn troi'n ofalwr, a'r rhiant yn dioddef o salwch. Sut mae wynebu heriau ariannol, pan mae'r dyfodol yn edrych yn dywyll? Pwy yw'r rhai y medrwn ymddiried ynddynt, a sut mae goresgyn twyll a barustra cymdeithas.
Mae gymaint o haenau i'r nofel grefftus hon, y digrif a'r gwallgof, y dwys a'r anodd. Dewch ar y siwrne gyda Bleddyn, wrth iddo geisio herio confensiynau ein hoes - fydd yna yr un milltir ddiflas ac mi fydd yna sawl cymeriad rhyfeddol yn aros i'ch cyfarfod ar y ffordd. Ond byddwch yn ofalus, mae yna greaduriaid reit od yn dal i swatio y tu ôl i ambell graig yng nghyffiniau Cader Idris. Efallai y clywch nhw ar noson leuad llawn... RAAARR.