This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Mae'r fferm ar ei thîn a'r banc ar ei chefn. Mae ei dad Ifor yn dioddef o iselder a'i fam wedi hen ddiflannu – dim ond Bleddyn (16) sy'n cadw'r blaidd o'r drws. Wrth ddilyn oen coll mewn hen gloddfa daw Bleddyn wyneb yn wyneb a haid o Flaidd-ddynion. Mae ar fin cael ei fwyta cyn i Frenhines y Bleiddiaid atal y wledd – am fod Bleddyn yn fab iddi.
Bywgraffiad Awdur:
Yn wreiddiol o Ddolgellau ac erbyn hyn yn byw ym Mro Morgannwg, mae Rolant Tomos yn awdur sy’n prysur ennill ei blwyf ym myd llenyddiaeth yng Nghymru. Dyma ei ail nofel, sydd wedi ei lleoli yn ei ardal enedigol.
Gwybodaeth Bellach:
Nofel ffantasi deimladwy, lawn hiwmor tywyll ar gyfer pobl ifanc.
‘Mae cymaint o haenau i’r nofel grefftus hon – y digrif a’r gwallgof, y dwys a’r anodd.’ – Haf Llewelyn
‘Mae cymaint o haenau i’r nofel grefftus hon – y digrif a’r gwallgof, y dwys a’r anodd.’ – Haf Llewelyn
- ISBN: 9781845279783
- Cyhoeddi: Hydref 2025
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 180 tudalen