- Raffl
- ISBN: 9781845279134
- Aled Jones Williams
- Cyhoeddi: Mai 2023 Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen
Yn Hydref 2021 cyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch gyfrol o straeon byrion gan Aled: Tynnu. Ymestyn i'r un cyfeiriad yw'r nod yn y gyfrol hon.
Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Aled Jones Williams ger Caernarfon ac astudiodd ym Mhrifysgol Bangor, Coleg Diwinyddol Mihangel Sant yn Llandaf, a Phrifysgol Caerdydd. Mae'n offeiriad gyda'r Eglwys yng Nghymru, yn Brifardd, yn awdur ac yn ddramodydd y mae amryw o'i ddramâu wedi eu llwyfannu. Roedd ei lyfr, Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2002, ac enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr un flwyddyn. Mae ei bryddest fuddugol, 'Awelon', wedi ei chynnwys yn Y Cylchoedd Perffaith (Gwasg y Bwthyn, 2010), ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, sy'n ymdrin â cholli ffydd ac alcoholiaeth. Dewiswyd ei nofel Eneidiau ar gyfer Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru yn Hydref 2013, ac roedd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2014. Dewiswyd ei nofel, Nostos (Gwasg Carreg Gwalch, 2018), hefyd i Silff Lyfrau 2018.
Gwybodaeth Bellach:
Meddai'r awdur: "Nid wyf erioed wedi bod yn or hoff o realaeth. Ac o ddydd i ddydd rhowch i mi'n wastad y rafin o flaen y ddynes dda neu'r dyn da. Os oes gennyf bwnc, amwysedd moesol yw hwnnw. Rhywle ymhlith hyn y bydd y storïau newydd hyn yn tindroi. Mae rhywbeth arall. Ers tro'n byd rwy'n ymwybodol fod rhai pethau a fu'n bwysig i mi yn dyfod i ben. Ni welaf yng Nghymru unrhyw ddyfodol i Gristionogaeth, er enghraifft. Fy arswyd nad yw'r iaith Gymraeg mor ddiogel ag a fynn rhai. Gwynt teg ar ôl ambell beth: byddwn wrth fy modd medru dweud fod Cyfalafiaeth ar fin diflannu gyda'r chwaer hyll Torïaeth ar ei hôl. Ond nid felly. Teimlaf fod egin rhyw newydd-deb ar ddod. Nid o angenrheidrwydd yn ddaionus. Wedi'r cyfan, mae'r newid hinsawdd yma'n barod. Mae pethau'n chwalu. O'r ymdeimlad yma o chwalfa y daw'r storïau hyn. Bydoedd gwyrgam sydd yma. A pobl sy'n dyllau i gyd heb ruddin."