Golwg Sydyn Bargen Loading... Beth am Gynnau Tân £8.00 - £-8.00 Nid cyfrol o farddoniaeth arferol yw hon. Roedd bywyd a gwaith Ann a’i rhan flaenllaw yng ngweithgarwch diwylliannol dyffrynnoedd Twymyn a Dyfi a thu hwnt yn rhan annatod o’i gyrfa lenyddol. Mae egni’r tân oedd ynddi at ein pethau gorau i’w glywed yn ei cherddi a’i phenillion. Tân i ysgogi fflam mewn eraill oedd ganddi a darnau a gyflwynwyd ar lafar yw cyfran helaeth o’i gwaith. Gan fod ei barddoniaeth wedi’i llunio i gysylltu’n uniongyrchol â’i chynulleidfa, boed honno yn gynulleidfa leol neu gynulleidfa genedlaethol talyrnau ar y radio a’r teledu, mae’n waith hygyrch y gellir ymateb iddo ar y pryd. Eto, mae’n haeddu mwy nag un darlleniad. Awen delynegol oedd gan Ann ac mae haenau o brofiadau mewn rhai llinellau ar yr wyneb yn syml. Mae’r gyfrol hon yn gyfuniad o gofiant a barddas, ac o’r herwydd yn cynnwys crynodeb o’i chefndir fel bardd ynghyd â lluniau a phytiau o waith hunangofiannol yn ogystal â barddoniaeth. ISBN: 9781845248000 Awdur: Ann Fychan Cyhoeddi: Gorffennaf 2026 Default Title - £8.00 Nifer - + Ychwanegu i'r bag siopa View all details Beth am Gynnau Tân £8.00