This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Beth am Gynnau Tân

  • £8.00

Nid cyfrol o farddoniaeth arferol yw hon. Roedd bywyd a gwaith Ann a’i rhan flaenllaw yng ngweithgarwch diwylliannol dyffrynnoedd Twymyn a Dyfi a thu hwnt yn rhan annatod o’i gyrfa lenyddol. Mae egni’r tân oedd ynddi at ein pethau gorau i’w glywed yn ei cherddi a’i phenillion. Tân i ysgogi fflam mewn eraill oedd ganddi a darnau a gyflwynwyd ar lafar yw cyfran helaeth o’i gwaith.

Gan fod ei barddoniaeth wedi’i llunio i gysylltu’n uniongyrchol â’i chynulleidfa, boed honno yn gynulleidfa leol neu gynulleidfa genedlaethol talyrnau ar y radio a’r teledu, mae’n waith hygyrch y gellir ymateb iddo ar y pryd. Eto, mae’n haeddu mwy nag un darlleniad. Awen delynegol oedd gan Ann ac mae haenau o brofiadau mewn rhai llinellau ar yr wyneb yn syml.

Mae’r gyfrol hon yn gyfuniad o gofiant a barddas, ac o’r herwydd yn cynnwys crynodeb o’i chefndir fel bardd ynghyd â lluniau a phytiau o waith hunangofiannol yn ogystal â barddoniaeth.

  • ISBN: 9781845248000
  • Awdur: Ann Fychan
  • Cyhoeddi: Gorffennaf 2026