This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Mae chwech disgybl cwrs trochi Ysgol Uwchradd Glan y Gors yn mynd ar drip ysgol i wersyll Coed Daniel. Ond nhw ydi'r unig ddosbarth sy'n llwyddo i gyrraedd pen y daith. Mae'r criw yn gaeth yn y gwersyll, mae'r goedwig gyfagos yn llawn bwystfilod, ac mae eu hathrawes yn sâl. A fedran nhw weithio gyda'i gilydd er mwyn achub ei bywyd hi a ffoi rhag y gelyn anfarwol?
- ISBN: 9781845279820
- Cyhoeddi: Hydref 2025
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 166 tudalen
Adolygiad o Anfarwol gan Rebecca Roberts.
Siân Llywelyn
Byddwch yn barod i gael eich dychryn gan Anfarwol sef nofel arswyd i bobl ifanc gan Rebecca Roberts. Does dim yn rhaid aros am yn hir iawn cyn i’r stori ein tynnu at flaen ein seddi... gan ofni darllen beth sy’n dod nesaf!
Mae’r nofel am griw o ddisgyblion dosbarth trochi ysgol Glan y Gors sy’n mynd ar gwrs awyr agored efo’u hathrawes, er mwyn dod i adnabod ei gilydd.
Mae saith prif gymeriad. Cian, y bachgen rhagfarnllyd sy’n chwilio am wendid ym mhawb, yn hytrach na’u cryfderau. Llew, y ffermwr sy’n hoff iawn o rygbi, ac sydd wedi addo i’w daid ei fod am ddysgu Cymraeg yn dda. Mae Charlotte yn ferch benderfynol, alluog sy’n byw ag anabledd corfforol, ac mae Yasmin yn gyfrifol ac yn ymddwyn fel y chwaer fawr i bawb. Merch swil yw Gwen, sydd wedi arfer cael addysg gartref tan cyrraedd y dosbarth trochi. Tom yw trydydd bachgen y grŵp, sydd wedi symud gyda’i dad o Iwerddon, ac mae o’n teimlo hiraeth mawr am ei gartref, a mwy. Yr olaf yw Miss Williams sy’n trio’i gorau i gadw trefn ar bawb, tan mae’r arswyd yn taro.
Nid yw Miss Williams yn derbyn y neges frys i beidio mynd i’r ganolfan, gan fod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd yno, ac felly, mae hi’n gyrru’r bws at geg y bwystfil, yn llythrennol, oherwydd mae’r erchyllterau, sy’n gwneud i ni feddwl am ffilm arswyd Americanaidd, yn digwydd yn syth wrth gyrraedd y ganolfan. Yn waeth na hynny, does dim signal ffôn er mwyn galw’r gwasanaethau brys...
Wrth i’r stori ddatblygu, down i adnabod y cymeriadau yn well, a down i ddeall pam bod Cian yn gweld y gwaethaf ym mhawb, a pham fod Tom yn hiraethu cymaint am ei gartref. Gwelwn hefyd bod ochr gyfrifol iawn i Gwen wrth i Miss Williams gael ei tharo’n wael, a gwelwn hyder Llew, Charlotte a Yasmin yn llewyrchu mewn argyfwng. Efallai bod wynebu’r Anfarwol yn rhoi eu bywydau mewn perygl, ond rydym yn dysgu bod mwy nac un peth erchyll yn medru digwydd i blant a’u teuluoedd heb orfod wynebu sombis mewn coedwig!
A fydd y plant hyn a’u hathrawes yn llwyddo i oroesi tybed, a beth fydd hanes yr Anfarwol?
Mae Anfarwol yn nofel llawn cyffro a dychryn gyda’r ddeialog yn gwneud ymdrech deg i bortreadu gallu ieithyddol disgyblion mewn dosbarth trochi, a phob clod i’r cymeriadau am lwyddo i gynnal eu Cymraeg mewn sefyllfa mor dyngedfennol!
Mae hi’n sicr yn nofel a fydd yn apelio at gynulleidfa ifanc gan fod perygl ar gynnydd wrth droi pob dalen, a pherthynas y criw yn datblygu a chryfhau erbyn y diwedd hefyd! Mae Anfarwol yn siŵr o gael ei mwynhau yn fawr, a bydd tipyn o drafod arni - hynny ydy - os feiddiwch chi ei darllen !