This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Mae chwech disgybl cwrs trochi Ysgol Uwchradd Glan y Gors yn mynd ar drip ysgol i wersyll Coed Daniel. Ond nhw ydi'r unig ddosbarth sy'n llwyddo i gyrraedd pen y daith. Mae'r criw yn gaeth yn y gwersyll, mae'r goedwig gyfagos yn llawn bwystfilod, ac mae eu hathrawes yn sâl. A fedran nhw weithio gyda'i gilydd er mwyn achub ei bywyd hi a ffoi rhag y gelyn anfarwol?
Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Rebecca ger y môr ym Mhrestatyn, ac mae hi’n byw yno o hyd gyda’i gŵr, dau o blant, a’u ci, Dexter. Mae hi wedi gweithio fel athrawes, swyddog y Gymraeg, cyfieithydd a thiwtor ysgrifennu creadigol. Ers 2019 mae hi wedi cyhoeddi un ar ddeg nofel i oedolion ac oedolion ifanc. Enillodd y categori Plant a Phobl Ifanc yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn a Gwobr Tir na n-Og 2021 gyda’i nofel gyntaf i bobl ifanc, #Helynt, sydd bellach yn llyfr gosod TGAU. Anfarwol ydi ei nofel gyntaf i bobl ifanc iau.
Gwybodaeth Bellach:
‘Stori ddychrynllyd i dy gadw ar flaen dy sedd!’ – Siân Llywelyn
- ISBN: 9781845279820
- Cyhoeddi: Hydref 2025
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 166 tudalen