This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- ISBN: 9780863819124
- Awdur: Rose Impey
- Cyhoeddi Mehefin 2004
- Darluniwyd gan John Eastwood
- Addaswyd/Cyfieithwyd gan Emily Huws.
- Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 1/2
- Fformat: Clawr Meddal, 194x127 mm, 64 tudalen
Addasiad Cymraeg o If Wishes Were Fishes, dwy stori werin yn portreadu tri chymeriad â'u dymuniadau'n mynd o chwith. 39 llun du-a-gwyn.
Adolygiad Gwales
Llyfr clawr meddal yw hwn yn y gyfres Gwalch Balch, yn cynnwys dwy hen stori boblogaidd. Mae’r stori gyntaf, ‘Dymuniad Mewn Eiliad’, i’w chael mewn sawl iaith. Mae’n adrodd hanes gŵr a gwraig yn cael tri dymuniad ac yn dangos beth ddigwyddodd wrth iddynt eu defnyddio. Mae’n stori ddoniol ac mae’n cynnwys iaith sy’n apelio at blant.
Un o chwedlau Grimm yw’r ail stori, ‘Hen Wraig y Botel’, sy’n adrodd hanes gwraig anniolchgar a chrintachlyd sy’n cael gwireddu sawl dymuniad gan dylwythen deg garedig. Mae hi’n stori afaelgar o'r dechrau hyd y diweddglo.
Delyth Wyn Davies