This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Dymuniad Mewn Eiliad (Gwalch Balch: 1)

  • £3.99
  • £0.00
  • ISBN: 9780863819124
  • Awdur: Rose Impey
  • Cyhoeddi Mehefin 2004
  • Darluniwyd gan John Eastwood
  • Addaswyd/Cyfieithwyd gan Emily Huws.
  • Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 1/2
  • Fformat: Clawr Meddal, 194x127 mm, 64 tudalen

Addasiad Cymraeg o If Wishes Were Fishes, dwy stori werin yn portreadu tri chymeriad â'u dymuniadau'n mynd o chwith. 39 llun du-a-gwyn.

Adolygiad Gwales
Llyfr clawr meddal yw hwn yn y gyfres Gwalch Balch, yn cynnwys dwy hen stori boblogaidd. Mae’r stori gyntaf, ‘Dymuniad Mewn Eiliad’, i’w chael mewn sawl iaith. Mae’n adrodd hanes gŵr a gwraig yn cael tri dymuniad ac yn dangos beth ddigwyddodd wrth iddynt eu defnyddio. Mae’n stori ddoniol ac mae’n cynnwys iaith sy’n apelio at blant.

Un o chwedlau Grimm yw’r ail stori, ‘Hen Wraig y Botel’, sy’n adrodd hanes gwraig anniolchgar a chrintachlyd sy’n cael gwireddu sawl dymuniad gan dylwythen deg garedig. Mae hi’n stori afaelgar o'r dechrau hyd y diweddglo.

Delyth Wyn Davies