Golwg Sydyn Bargen Loading... Llechan yn y Gwaed (Atgofion drwy ganeuon) £8.99 - £-8.99 Y bardd a'r cyfansoddwr o Flaenau Ffestiniog yn olrhain rhai o brofiadau ei fywyd ochr yn ochr â chyflwyno detholiad nodedig o'i ganeuon, eu harwyddocâd iddo yn bersonol, eu cefndir a rhai straeon ysgafn ynglŷn â'u perfformio. Gwybodaeth Bellach: Chafodd Gai Toms erioed wersi canu na gwersi gitâr, ond mae ei gyfraniad i'r sin gerddoriaeth Gymraeg ers y 1990au yn syfrdanol. Fel canwr-gyfansoddwr, mae ei gerddoriaeth yn amrywio o roc a ska i arddulliau gwerin ac amgen, a'i eiriau yr un mor bwysig â'i alawon, yn llawn ystyr a myfyrdod, a'i ymrwymiad i themâu cynaliadwyedd, cymuned, a'n lle fel Cymry yn y byd.Cawn ei hanes yma drwy ganeuon sy'n bwysig iddo: ei fagwraeth yn Nhanygrisiau, ei ddyddiau coleg, ei daith gerddorol gyda'r grwpiau Anweledig a Brython Shag, ac yn unigol dan yr enw Mim Twm Llai a'i enw ei hun. Aeth ambell gân a'i fryd wrth iddo dreulio cyfnodau'n cefnogi ac yn cyfrannu at lwyddiant bandiau eraill hefyd.Wrth fyfyrio ar y profiadau sydd wedi llywio'i daith, mae'n rhannu'r teimladau a'r weledigaeth sy'n gefndir i rai o'i ganeuon mwyaf adnabyddus, ac os crafwch o dan wyneb y caneuon hynny cewch gipolwg ar ei fywyd.Yn 2024, derbyniodd Gai Toms wobr gan gylchgrawn Y Selar am gyfraniad arbennig i gerddoriaeth Cymraeg. ISBN: 9781845279660 Cyhoeddi: Mehefin 2025 Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 130 tudalen Default Title - £8.99 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa This item is a recurring or deferred purchase. By continuing, I agree to the cancellation policy and authorize you to charge my payment method at the prices, frequency and dates listed on this page until my order is fulfilled or I cancel, if permitted. View all details Llechan yn y Gwaed (Atgofion drwy ganeuon) £8.99