- ISBN: 9780863817397
- Awdur: Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafydd, Twm Morys, Ifor ap Glyn, Geraint Lövgreen
- Cyhoeddi Gorffennaf 2001
- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
- Fformat: Clawr Meddal, A5, 104 tudalen
Casgliad o 48 o gerddi a chaneuon amrywiol gan bum bardd cyfoes a deithiodd drwy Gymru yn ystod mis Medi 2000 i ddathlu chwe chan mlwyddiant gwrthryfel Owain Glyndŵr, ynghyd â hanesion gwir a chwedlau o gyfnod Glyn dŵr a rydd gefndir i rai o'r cerddi. 48 ffotograff du-a-gwyn.
Adolygiad Gwales
Teyrnged i chwe chan mlwyddiant gwrthryfel Glyndŵr yw’r gyfrol hon. Y mae yma gyfuniad celfydd o weithiau gan bum bardd gwrywaidd cyfoes – Iwan Llwyd, Geraint Lovgreen, Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn a Twm Morys – oll yn cynnig gweledigaeth unigryw o’r cysyniad o hunaniaeth Gymreig fodern. Y mae’r gyfrol yn adleisio rhywfaint o hen draddodiadau barddol llys Glyndŵr, yn ogystal ag atgoffa cynulleidfa fodern fod yma ffresni a newydd-deb disglair mewn barddoniaeth gyfoes. Mae’n bwysig nodi hefyd fod yma ymgais i gwestiynu swyddogaeth bardd yn yr oes sydd ohoni, gan godi nifer o gwestiynau dyrys ynglŷn â dylanwadau a thraddodiadau barddoniaeth o fewn y gymdeithas ‘lenyddol’ Gymreig.
Gan mai cerddi i’w perfformio yw’r rhan fwyaf o’r cerddi yn y gyfrol, rhaid yw dweud fod yma siom ac unigedd i’w deimlo trwy eu darllen ar bapur. Ond wedi dweud hynny, y mae yma lawer i’w ddweud dros gipio tanbeidrwydd y geiriau chwilboeth allan o’r aer a’u serio’n dynn ar dudalen.
Er nad yw hon yn gyfrol sy’n torri tir newydd y mae hi’n sicr, ac yn llythrennol, yn dal ei thir. Ceir yma fyfyrdodau ar diriogaeth a pherchenogaeth, sydd yn hawlio cynfas glân, newydd y dudalen ar gyfer ailfapio tir newydd. Ceir darlun o Gymru sy’n disgyn yn ddestlus rhwng hen hanes a chelfyddyd byw y byd modern.
Ceir yng ngweithiau Iwan Llwyd sylwadau craff ar natur ein trefedigaeth fel cenedl, ac mae’r cerddi ‘Mae Cymru ar agor’ a ‘You’re not from these parts’ yn cynnig dadansoddiad treiddgar o natur ein cyfaddawd ieithyddol a diwylliannol ar hyd yr oesau. Y mae gwaith Ifor ap Glyn, ar y llaw arall, yn parhau i wincio’n ddychanol ar ei gynulleidfa, gan drawsnewid syniadau hynafol am swyddogaeth beirdd mewn i naratif digri sy’n llawn o driciau llenyddol. Ceir dwyster arbennig yng ngweithiau Geraint Lovgreen a Myrddin ap Dafydd hefyd; dau fardd sydd yn gwneud i ni fyfyrio am rôl arbennig lleoliad a milltir sgwâr o fewn strwythur hunaniaeth. Ac un gerdd sydd yn sicr yn pefrio uwch y lleill yw cerdd deyrnged Twm Morys i R.S. Thomas, cerdd deimladwy, ysgytwol, sydd yn codi ymwybyddiaeth haeddiannol o fardd sy’n dueddol o fod yn ffigwr amwys ac echreiddig yn llygaid nifer o gynulleidfaoedd Cymraeg.
Er bod hon yn gyfrol sy’n ddibynnol ar gyfoeth clywedol er mwyn ei gwerthfawrogi’n llawn, y mae’r broses o ddarllen y cerddi ar bapur yn rhoi cyfle i’r delweddau a’r negeseuon dreiddio’n llawer is i ymwybyddiaeth y darllenydd nag y maent yn dueddol o wneud mewn perfformiad. Ond tybed ai neges ‘wrywaidd’ ei natur yw hon? Er mwyn cwblhau darlun cymdeithasol cytbwys, teimlaf y byddai’r gyfrol yn gryfach o’i hailwampio er mwyn cynnwys cyfranwyr benywaidd. Os mai’r ddadl yw fod hunaniaeth Gymreig yn hyblyg ac yn amlochrog, oni ddyliai’r cyfranwyr eu hunain fod yn arwyddocaol o’r amrywiaeth honno?
Dyma gyfrol sy’n cyfrannu’n hael i farddoniaeth lafar Gymraeg. Ac os yw’r gyfrol hon yn brawf bod y Syched am Sycharth wedi’i diwallu, yna mae hi’n brawf hefyd bod gwydr y darllenydd yn barod am yr ail rownd.
Fflur Dafydd