- Curiad Gwag
- ISBN: 9781845278779
- Rebecca Roberts
- Cyhoeddi: Mehefin 2022 Addas i oed 16+
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 300 tudalen
Mae Sophie Shaw yn 24 oed, yn ddigartref ac yn ddi-waith ... ac yn ychydig o enigma. Pan gaiff ei phenodi yn Rheolwr Taith i Konquest, band roc trwm Cymraeg a reolir gan Brian Bates, ffigwr chwedlonol yn y byd cerddoriaeth, caiff ei thaflu i ganol bywyd cyffrous y sîn roc. Addas i oedolion ifanc 16+.
Bywgraffiad Awdur:
Nofel newydd i bobl ifanc gan awdures #Helynt ac enillydd Gwobr Tir na n-Og a Llyfr y Flwyddyn i Blant a Phobl Ifanc 2021. Fel aelodau Konquest, mae Rebecca Roberts wrth ei bodd â cherddoriaeth roc, ond gan nad oes ganddi'r ddawn i ganu offeryn na chanu, penderfynodd ysgrifennu nofel am y pwnc! Mae hi'n byw ym Mhrestatyn gyda'i g?r a'i phlant, ac yn gweithio fel cyfieithydd. Mae hi wedi cyhoeddi tair nofel i oedolion, sef Mudferwi a'i dilyniant, Chwerwfelys, ac Eat.Sleep.Rage.Repeat.
Gwybodaeth Bellach:
Gorfodir hi i wynebu gorffennol y mae hi wedi troi cefn arno, ac ail-fyw ambell brofiad y byddain well ganddi eu hanghofio... A all hi gadw trefn ar bedwar dyn ifanc gwyllt (a chadw ei meddwl ar waith) yn ddigon hir i gwblhaur daith? Addas i bobl ifanc 16+