Golwg Sydyn Bargen Loading... Cofio Dan a Mair £8.00 £0.00 - £-8.00 Cofio Mair Penri a Dan Puw ISBN: 9781845278885 Cyhoeddi: Ebrill 2022 Golygwyd gan Gwen Edwards Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 150 tudalen Collwyd dau aelod o gymdeithas y Parc ym Mhenllyn yn 2019; roedd hi'n golled i Gymru gyfan. Cawsai'r ddau eu hurddo â Medal T. H. Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr anrhydedd uchaf am wasanaeth i ddiwylliant a bro. Mae hyn yn unigryw yn hanes unrhyw bentref arall drwy Gymru.Gwybodaeth Bellach:Penderfynwyd cofio am y ddau ar y cyd mewn cyfarfod yn y Parc ddechrau 2020. Y teyrngedau a'r perfformiadau hynny yw sail y gyfrol hon. Yn wahanol i'r arfer, mae'n addas a gweddus cofio am y ddau gyda'i gilydd - maent yn cyfannu cylch o hiwmor, hwyl, dawn ac angerdd mewn meysydd gwahanol sy'n perthyn i'r un diriogaeth.Wrth ddod allan o effeithiau'r Pandemig, bydd cymunedau ledled Cymru'n gweld colli aelodau gwerthfawr o'u cymdeithas fel hyn wrth fynd ati i sefydlu gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol, fydd o raid yn cynnwys elfennau newydd. Bydd y gyfrol hon am y ddau gymeriad yma yn medru bod yn ysbrydoliaeth. Default Title - £8.00 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa This item is a recurring or deferred purchase. By continuing, I agree to the cancellation policy and authorize you to charge my payment method at the prices, frequency and dates listed on this page until my order is fulfilled or I cancel, if permitted. View all details Cofio Dan a Mair £8.00