ISBN: 9780863818592
Awdur: Jerry Hunter
Cyhoeddi Rhagfyr 2003
Fformat: Clawr Meddal, 144x210 mm, 267 tudalen
Cyfrol yn cofnodi hanes garw yr Americanwyr Cymraeg eu hiaith a ymladdodd yn Rhyfel Cartref America, 1861-65, wedi ei seilio ar ymchwil trylwyr i lythyrau'r milwyr Cymreig a ffynonellau llawysgrifol eraill y cyfnod. 68 ffotograff du-a-gwyn a 3 map.
Adolygiad Gwales
ENILLYDD GWOBR LLYFR Y FLWYDDYN 2004
Ym 1986, dechreuodd Jerry Hunter ymchwilio i hynt a helynt y Cymry – neu Americanwyr Cymraeg eu hiaith – a’r rhan fu ganddynt yn Rhyfel Cartref America, a ffrwyth yr ymchwil honno yw’r gyfrol ryfeddol hon. Mae’r llyfr yn gymar i gyfres o raglenni dogfen ar y Rhyfel a gomisiynwyd gan S4C.
Caethwasiaeth oedd y prif reswm dros y Rhyfel. Ym 1860, yr oedd un allan o bob wyth o drigolion America yn gaethion, a hynny yn nhaleithiau’r De. Trigai’r mwyafrif llethol o’r Cymry yn nhaleithiau rhydd y Gogledd – yn Efrog Newydd, Pennyslvania, Ohio, Illinois a Wisconsin – a gwrthwynebent gaethwasiaeth o’r cychwyn cyntaf. Iddynt hwy, yr oedd y Rhyfel Cartref, pan dorrodd ym 1861, yn grwsâd crefyddol, ac Abraham Lincoln oedd eu harwr mawr. Yr oedd y cymunedau Cymreig yn y taleithiau hyn yn gymunedau cymharol ieuainc, a’r Gymraeg yn fyw ymhlith nifer o’u trigolion. Perthynent hwy, ar y naill law, i’r traddodiad radicalaidd Cymreig, ond disgynyddion i deuluoedd o dras Gymreig oedd Cymry taleithiau’r De, ar y llaw arall, a hwythau wedi colli’r iaith ers rhai cenedlaethau, ac yn tueddu i fod o blaid y fasnach mewn caethion. Yn wir, yr oedd rhai o brif arweinwyr y Confederacy o dras Gymreig, rhai fel Jefferson Davis, Alexander H. Stephens a Robert E. Lee. Mae’r awdur yn amcangyfrif bod rhwng chwech a saith mil o Gymry wedi ymrestru ym myddin y Gogledd, ac er bod rhai cwmnïau Cymreig wedi eu ffurfio, ni chafwyd yr un gatrawd Gymreig o gwbl.
Olrheinir yma hynt y Rhyfel o’i ddechrau ym 1861 hyd at ei ddiwedd ym 1865, a hynny drwy eiriau Cymry Cymraeg a fu’n ymladd ym mrwydrau gwaedlyd Antietam a Perryville, Fredericksburg a Gettysburg. Cawn ddarllen dyddiadur dramatig Evan Davis, lle ceir disgrifiad byw ac arswydus o frwydr Perryville, Kentucky, a chyflwynir ni i gymeriadau fel John Griffith Jones o Benisa’r-waun, Lewis Lewis a fu’n garcharor rhyfel a William H. Powell o Bont-y-pŵl, a gododd gwmni o wirfoddolwyr o blith gweithwyr haearn Ironton, Ohio.
Mae cynnwys Llwch Cenhedloedd yn seiliedig ar nifer helaeth ac amrywiol o ffynonellau - yn ddyddiaduron a llythyrau, yn farddoniaeth, llyfrau a chylchgronau. Nid pawb sy’n gwybod bod y wasg gylchgronol Gymraeg wedi ffynnu yn America drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a bod yr enwadau crefyddol Cymraeg wedi cynnal eu cyfnodolion eu hunain, megis Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn America (Methodistiaid Calfinaidd), Y Cenhadwr Americanaidd (Annibynwyr), a’r Seren Orllewinol (Bedyddwyr). Yr oedd Robert Everett, golygydd Y Cenhadwr, yn ffyrnig ei wrthwynebiad i gaethwasiaeth, fel y gwelir o ddarllen ei gylchgrawn. Ond mae’n werth crybwyll hefyd iddo sefydlu un cylchgrawn Cymraeg byrhoedlog, gyda’r union amcan o wrthwynebu’r fasnach mewn caethion, sef Y Dyngarwr, yr ymddangosodd deuddeg o’i rifynnau rhwng misoedd Ionawr a Rhagfyr 1843. Y mae’r cylchgrawn hwn yn brin eithriadol, ac nid yw’n syndod, efallai, nad yw’r awdur yn cyfeirio ato.
Megis y gwnaeth Bill ac Aled Jones, wrth iddynt hwy adrodd stori Y Drych, newyddiadur llwyddiannus cyntaf Cymry America, y mae Jerry Hunter yn y gwaith hwn wedi codi corff o lenyddiaeth Gymraeg Americanaidd o lwch dinodedd y gorffennol. Ac mae’n briodol iawn, greda i, mai Americanwr o Cincinnati a wnaeth y gymwynas hon â ni.
Huw Walters