This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Dan yr Wyneb
- ISBN: 9781845274047
- John Alwyn Griffiths
- Cyhoeddi Ionawr 2019
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 312 tudalen
- Nofel gyntaf John Alwyn Griffiths
Nofel am dwyll a chamymddwyn mewn cyngor sir dychmygol yng ngogledd Cymru. Mae'r prif gymeriad, plismon a adawodd yr ardal dan gwmwl personol rai blynyddoedd ynghynt, yn dychwelyd i ymchwilio i honiadau o weithredoedd dan din parthed caniatâd cynllunio ar gyfer parc gwyliau a marina ar yr arfordir. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2012.
Adolygiad Gwales
Saith egwyddor bywyd cyhoeddus? Byddair Arglwydd Nolan yn troi yn ei fedd.
Er gwaethaf eu statws fel dinasyddion parchus a gweision cymdeithas, mae egwyddorion megis anhunanoldeb, unplygrwydd, gwrthrychedd, atebolrwydd, tryloywder, gonestrwydd ac arweinyddiaeth yn gwbl ddieithr i rai o gymeriadaur nofel fachog hon.
Un egwyddor sydd gan Gadeirydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Glanaber, Gwynfor Jones, ac edrych ar ôl ei fuddiannau ei hun yw honno. Yn ei ddichell ai gynllwynio maen rhwydo eraill iw fagl, ac yn cynghreirio â grymoedd pwerus er lles ei fuddiannau ai gynlluniau ei hun.
Ardal go wledig yng ngogledd Cymru yw Glanaber; mae ganddi arfordir prydferth a ffermydd tlodaidd syn cael eu gorfodi i arallgyfeirio a throi at dwristiaeth i geisio cadw dau ben llinyn ynghyd. Beth allai fod yn well ir ardal na marina? Byddai datblygiad fel hyn yn denu buddsoddiad, yn arwydd o hyder yn yr ardal ac yn fuwch gynhyrchiol iw godro am gyflogaeth a chynhaliaeth am flynyddoedd. Swnion gyfarwydd, ond ydi? Wrth ddarllen, ni allwn ond gobeithio mai dychymyg byw sydd gan John Alwyn Griffiths, ac nad yw wedi cloddio iw orffennol fel pennaeth Adran Twyll Heddlu Gogledd Cymru i ddod o hyd i ddeunydd ar gyfer y nofel.
Gan fod datblygiad fel marina yn amlwg yn denu cyllid o dur Cynulliad, pan ddaw sïon nad yw pob dim fel y dylai fod ym Mae Caerdydd, caiff swyddog or adran gyfreithiol ei anfon i ymchwilio. Dylai Meurig Morgan allu ymdopin iawn âr gwaith, ond mae ganddo yntau orffennol digon anodd a rhaid iddo ddod i delerau âr gorffennol hwnnw ai gysylltiadau ei hun âr ardal cyn gallu gweithredun effeithiol.
Efallai mai ardal wledig yw Glanaber, does dim byd yn araf a hamddenol am y nofel hon. Gydag un cynllwyn yn dilyn y llall, a neb yn gwybod yn iawn pwy i ymddiried ynddo, mae digon yma i gadwr darllenydd yn gaeth, yn awyddus i wybod y tro nesaf yn yr hanes, a beth fydd tynged y cast brith o gymeriadau.
Dyma chwip o nofel, syn symud yn gyflym ond yn hyderus ac yn ddifyrrwch pur. Efallai fod ambell elfen yn orddramatig, ond does dim nad ywn gweddu ir genre. Darllenwch, mwynhewch ... a gweddïwch mai ffuglen ywr cyfan.
Catrin Beard
Rhestr o nofelau John Alwyn Griffiths mewn trefn:
- Dan yr Wyneb
- Dan Ddylanwad
- Dan Ewyn y Don
- Dan Gwmwl Du
- Dan Amheuaeth
- Dan ei Adain
- Dan Bwysau
- Dan Law'r Diafol
- Dan Fygythiad
- Dan Gamsyniad
- Dan Gysgod y Coed
-
Dan y Dŵr
Eto i ddod:
- Dan y Ddaear