This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Haydn a Rhys
- ISBN: 9781845279127
- Geraint Lewis
- Cyhoeddi: Rhagfyr 2024
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen
Nofel ysgafn am ddau hen ffrind yn ceisio gwneud synnwyr o'u bywydau.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Geraint Lewis yn hanu o Dregaron, Ceredigion. Graddiodd mewn Saesneg a Drama o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyhoeddodd dair nofel, sef X, Daw Eto Haul a Haf o Hyd, i gyd i Wasg Carreg Gwalch a thair cyfrol o straeon byrion Y Malwod (Annwn), Brodyr a Chwiorydd (Y Lolfa), Cofiwch Olchi Dwylo a negeseuon eraill a Lloerig (Carreg Gwalch). Ef oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa Tony Bianchi yn 2019. Daeth y nofel hon yn ail am y Fedal Ryddiaith yn 2020. Bu Geraint yn ysgrifennu’n helaeth i’r theatr a radio ac mae’n ysgrifennu’n gyson ar gyfer y teledu, yn bennaf i’r gyfres Pobol y Cwm.. Mae’n byw yn Aberaeron gyda’i wraig Siân.
Gwybodaeth Bellach:
A fyddan nhw'n dal i fod yn ffrindiau ar ddiwedd y gwyliau ... ac a fydd y ddau yn dychwelyd adref?
Nofel am gyfeillgarwch oes, am ymddiriedaeth ac am yfed gwin coch yn yr haul.
Nofel am gyfeillgarwch oes, am ymddiriedaeth ac am yfed gwin coch yn yr haul.