This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Llechan yn y Gwaed (Atgofion drwy ganeuon)

  • £8.99

Y bardd a'r cyfansoddwr o Flaenau Ffestiniog yn olrhain rhai o brofiadau ei fywyd ochr yn ochr â chyflwyno detholiad nodedig o'i ganeuon, eu harwyddocâd iddo yn bersonol, eu cefndir a rhai straeon ysgafn ynglŷn â'u perfformio.

Gwybodaeth Bellach:
Chafodd Gai Toms erioed wersi canu na gwersi gitâr, ond mae ei gyfraniad i'r sin gerddoriaeth Gymraeg ers y 1990au yn syfrdanol. Fel canwr-gyfansoddwr, mae ei gerddoriaeth yn amrywio o roc a ska i arddulliau gwerin ac amgen, a'i eiriau yr un mor bwysig â'i alawon, yn llawn ystyr a myfyrdod, a'i ymrwymiad i themâu cynaliadwyedd, cymuned, a'n lle fel Cymry yn y byd.
Cawn ei hanes yma drwy ganeuon sy'n bwysig iddo: ei fagwraeth yn Nhanygrisiau, ei ddyddiau coleg, ei daith gerddorol gyda'r grwpiau Anweledig a Brython Shag, ac yn unigol dan yr enw Mim Twm Llai a'i enw ei hun. Aeth ambell gân a'i fryd wrth iddo dreulio cyfnodau'n cefnogi ac yn cyfrannu at lwyddiant bandiau eraill hefyd.
Wrth fyfyrio ar y profiadau sydd wedi llywio'i daith, mae'n rhannu'r teimladau a'r weledigaeth sy'n gefndir i rai o'i ganeuon mwyaf adnabyddus, ac os crafwch o dan wyneb y caneuon hynny cewch gipolwg ar ei fywyd.
Yn 2024, derbyniodd Gai Toms wobr gan gylchgrawn Y Selar am gyfraniad arbennig i gerddoriaeth Cymraeg.

  • ISBN: 9781845279660
  • Cyhoeddi: Mehefin 2025
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 130 tudalen

Adolygiad gan Rhian Wyn Williams

Llyfr diweddaraf yng nghyfres ‘Atgofion drwy Ganeuon’ gan Wasg Carreg Gwalch ydy Llechan Yn Y Gwaed gan yr amryddawn Gai Toms.  Mae’r gyfrol yn daith ddifyr tu hwnt drwy fywyd creadigol Gai. Roeddwn yn disgwyl trafodaeth fanwl am ganeuon penodol yn unig, ond mae llawer mwy i’r gyfrol hon. Math o hunangofiant amgen sydd yma gyda chaneuon y cerddor o Danygrisiau yn gerrig milltir ar lwybr ei fywyd.

Mae teitl a chlawr y gyfrol yn gysylltiad amlwg â gwreiddiau Gai ym Mro’r Llechi.  Mae’r lechan las ar y clawr gyda’i sgriffiadau o graffiti yn addas dros ben ac arwyddocâd arbennig tu ôl i’r teitl hefyd. Rydym yn hen gyfarwydd gyda’r dywediad ‘Llechan yn y Gwaed’, ond mae’r llechen yn llythrennol yn rhedeg drwy waed Gai wedi damwain yn blentyn, dduda’i ddim mwy, ewch ati i ddarllen yr hanes drostoch eich hunain.

Agorir y gyfrol gydag un o ganeuon mwyaf eiconig y Sîn Roc Gymraeg y 90au sef ‘Dawns y Glaw’. Cân sy’n fwy na chyfeiriad at law enwog Blaenau, mae Gai yn egluro bod y gân hefyd yn symbolaeth o hyder newydd a oedd yn tyfu yn yr ardal ym mysg yr ifanc.  Daeth y gân yn glasur o’r munud cyntaf, gan bortreadu egni heintus Anweledig, sef y band cyntaf i Gai fod yn aelod ohono. Yma cawn hanes cynnar Anweledig, o’r criw o ffrindiau yn sefydlu’r band, yr ymarferion cyntaf yn ‘Top Garej’ gyda thuniau Quality Streets fel drymiau, eu gig gyntaf yn adeilad Yr Urdd, Blaenau Ffestiniog gyda neb llai na’r Anrhefn, a’u halbwm gyntaf Sombreros yn y Glaw.  Yma hefyd cawn gip ar ieuenctid Gai o Danygrisiau, i Ddolgellau ac i’r Brifysgol yn Aberystwyth gyda dylanwadau cerddorol o bob lliw a llun yn gyfeiliant i’r cyfan.

Mae penodau ‘Graffiti Cymraeg’ , ‘Tafarn yn Nolrhedyn’ a  ‘Clwb y Tylluanod’ yn adlewyrchiad o gariad Gai at ei fro, ei Gymreictod ac at gymeriadau lliwgar Stiniog a’u dylanwad cadarn arno fel person ac fel artist. ‘Ges i ‘ngeni ym Mangor, a fy magu mewn sbensh’ ydy geiriau agoriadol ‘Graffiti Cymraeg’ ac mae Gai yn ei ffordd ddihafal ei hun yn egluro tarddiad y gair ‘sbensh’ a’i gysylltiad unigryw gyda bro ei febyd - mor ddiddorol.  Cân am adfywio ydy ‘Tafarn yn Nolrhedyn’ yn ôl Gai, cân a allai gael ei chysidro fel anthem i’r holl dafarndai cymunedol sy’n britho hyd a lled Cymru heddiw.  Portreadu tafarn y Tap mae ‘Clwb y Tylluanod’ a’i chymeriadau unigryw fel Jiwdas, Tomi C a Robin Pantcoch ac mae’r hanes pan ddaeth Meic Stevens yno i gynnal gig a’r cyfle a gafodd Gai ifanc iawn i chwarae gyda’i arwr cerddorol yn arbennig.

Yr hyn a fy nharodd fwyaf wrth ddarllen y gyfrol oedd amrywiaeth arddull caneuon Gai, mae o’n artist sydd yn gyson esblygu ac yn gwthio ffiniau. Gwelir hyn wrth iddo fentro i fyd Cerdd Dant wrth gyfansoddi cyfalaw i gerdd arbennig Dewi Prysor ‘Y Pen-blwydd’, ar gainc ‘Gardden’ gan Siân James, ac yna yn ei albwm cysyniadol am fywyd y reslwr Orig Williams a oedd yn cynnwys clasuron eraill gan Gai fel ‘Palmant Aur y Migneint’ a ‘Y Cylch Sgwâr’.  Mae’r ffordd mae Gai yn talu teyrnged annwyl i’w ddiweddar fam yn y bennod yma yn cyffwrdd y galon.

Mae’r gyfrol yma yn dyst i dalent amryddawn ac unigryw Gai Toms. Cerddor, bardd, actiwr, cynhyrchydd, arloeswr – mae ganddo sawl pluen i’w het, a’r ffactor mwyaf cyffrous yw bod rhywun yn gwybod llawer mwy i ddod.