This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Ymadroddion Môn - Casgliad John Gwilym Jones, Llannerch-y-Medd
- ISBN: 9781845278670
- Cyhoeddi: Medi 2022
- Golygwyd gan Philip Lowies, Gareth Morris
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 330 tudalen
Iaith rymus Môn geir yma, ar ffurf casgliad o ddywediadau, rhigymau a geiriau, oll at bwrpas, wedi eu casglu dros gyfnod o ddeugain mlynedd gan Siôn Gwilym, Llannerch-y-medd. Llafur cariad am iddo wirioni'n llwyr pan oedd yn ifanc iawn ar wreiddioldeb hwyliog a dawn dweud y gymdeithas werinol a gwledig y'i magwyd ynddi.
Gwybodaeth Bellach:
Cafodd Siôn Gwilym ei ddwyn i fyny ar aelwyd ei daid ai nain yn Llannerch-y-medd ynghanol cymuned h?n, ffraeth y fro, oedd yn llawn cymeriadau a Chymraeg drwyddi draw.
Roedd Siôn ei hun yn gymeriad a hanner. Cymeriad mawr o gorff a phlaen ei dafod na allai ddioddef ffyliaid. Ymhyfrydai yn ei bobl a threuliodd ei oes yn cywain y perlau o ddoethineb yn y gyfrol hon wedi eu crisialu o hir brofiadau bywyd ac oddi ar leferydd sawl cenhedlaeth o wladwyr gwâr Môn. Twm Elias
Cyfrol ardderchog iawn y dylai pawb syn carur iaith Gymraeg ei darllen. Robin Gwyndaf