This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Ymadroddion Môn

  • £9.50
  • £0.00
  • Ymadroddion Môn - Casgliad John Gwilym Jones, Llannerch-y-Medd
  • ISBN: 9781845278670
  • Cyhoeddi: Medi 2022
  • Golygwyd gan Philip Lowies, Gareth Morris
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 330 tudalen

Iaith rymus Môn geir yma, ar ffurf casgliad o ddywediadau, rhigymau a geiriau, oll at bwrpas, wedi eu casglu dros gyfnod o ddeugain mlynedd gan Siôn Gwilym, Llannerch-y-medd. Llafur cariad am iddo wirioni'n llwyr pan oedd yn ifanc iawn ar wreiddioldeb hwyliog a dawn dweud y gymdeithas werinol a gwledig y'i magwyd ynddi.

Gwybodaeth Bellach:

Cafodd Siôn Gwilym ei ddwyn i fyny ar aelwyd ei daid ai nain yn Llannerch-y-medd ynghanol cymuned h?n, ffraeth y fro, oedd yn llawn cymeriadau a Chymraeg drwyddi draw.

Roedd Siôn ei hun yn gymeriad a hanner. Cymeriad mawr o gorff a phlaen ei dafod na allai ddioddef ffyliaid. Ymhyfrydai yn ei bobl a threuliodd ei oes yn cywain y perlau o ddoethineb yn y gyfrol hon wedi eu crisialu o hir brofiadau bywyd ac oddi ar leferydd sawl cenhedlaeth o wladwyr gwâr Môn. Twm Elias

Cyfrol ardderchog iawn y dylai pawb syn carur iaith Gymraeg ei darllen. Robin Gwyndaf