- Bod Rhydderch
- ISBN: 9781845279073
- Lona Patel
- Cyhoeddi: Tachwedd 2023
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 180 tudalen
Ar ôl ffrae gyda'i mam mae Ana, merch ifanc o'r Wladfa, yn dianc i Gymru ar ei phen ei hun. Teithia'r holl ffordd i Aberdaron, pentref genedigol ei nain, er mwyn ymweld a'r ardal y clywodd gymaint amdani, heb wybod am ba hyd y bydd hi'n aros yno. Ond yn hytrach na chael cyfle i anghofio am ei thrafferthion, mae'n cael ei thaflu'n ddyfnach i hanes cythryblus ei theulu.
Bywgraffiad Awdur:
Cafodd Lona Patel ei magu ym Mhen Ll?n, ac ar ôl mynychu Ysgol Botwnnog a'r Coleg Normal ym Mangor, treuliodd gyfnodau yn dysgu yn Sheffield ac ar Ynys Wyth cyn ymfudo i Montréal ac wedyn i Buffalo, Efrog Newydd. Mae bellach wedi ymddeol ac yn rhannu ei hamser rhwng de-ddwyrain Lloegr ar Rhiw yn Ll?n. Dechreuodd ysgrifennu ar ôl iddi ymddeol, a chyhoeddodd ei nofel gyntaf, Y Weirglodd Wen, yn 2016, ac yna Brynhyfryd yn 2021.
Gwybodaeth Bellach:
'Mae Lona Patel yn storïwraig wrth reddf.' Dafydd Ifans
Caiff cynllun Bardd Plant Cymru ei reoli gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru. Gwefan: www.llenyddiaethcymru.org. Twitter: @BarddPlant