This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

ABC Byd Natur

  • £6.95
  • ISBN: 9781845277277
  • Luned Aaron
  • Cyhoeddi Hydref 2016
  • Darluniwyd gan Luned Aaron
  • Addas i oed 0-7 neu cyfnod allweddol 1
  • Fformat: clawr caled, 218x215mm, 60 tud

Cyfrol hardd, llawn lliw ac amrywiaeth sy\'n cyflwyno\'r Wyddor Gymraeg i blant blwydd i oedran cynradd, wedi\'i chynllunio a\'i darlunio gan yr artist Luned Aaron.  Ewch ar daith natur ABC gyda\'ch plentyn.  Dechreuwch trwy edmygu delweddau hardd y gyfrol hon, cyn mentro allan i\'r ardd i weld beth allwch chithau ei ganfod.  Fe gewch chi a\'ch plant eich swyno!

Bywgraffiad Awdur - Daw Luned Aaron yn wreiddiol o Fangor.  Bellach, mae hi\'n byw yng Nghaerdydd gyda\'i g?r a\'i dwy ferch fach.  Mae\'n arddangos yn gyson mewn orielau ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys Oriel Kooywood yng Nghaerdydd ac Oriel Tonnau ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn y Gogledd.

Gwybodaeth Bellach - Cyfrol hardd, llawn lliw ac amrywiaeth sy\'n cyflwyno\'r Wyddor Gymraeg i blant blwydd i oedran cynradd, wedi\'i chynllunio a\'i darlunio gan yr artist Luned Aaron.

Yn wahanol i\'r rhan fwyaf o lyfrau o\'r fath, mae\'r holl ddelweddau collage gwreiddiol yn y gyfrol hon yn deillio o fyd natur, a hynny gan i Luned, sy\'n fam i Eos ac Olwen, sylwi fod trafod byd natur yn ffordd effeithiol o gyflwyno llythrennau\'r wyddor i blentyn.

Ewch ar daith natur ABC gyda\'ch plentyn.  Dechreuwch trwy edmygu delweddau hardd y gyfrol hon, cyn mentro allan i\'r ardd i weld beth allwch chithau ei ganfod.  Fe gewch chi a\'ch plant eich swyno!