Golwg Sydyn Bargen Loading... Help! Ble Mae Enfys? (Gwalch Balch: 3) £3.99 £0.00 - £-3.99 ISBN: 9780863819308 Awdur: Margaret Ryan Cyhoeddi Hydref 2004 Darluniwyd gan David Melling Addaswyd/Cyfieithwyd gan Siân Lewis. Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 1/2 Fformat: Clawr Meddal, 194x127 mm, 48 tudalen Addasiad Cymraeg o Rainbow to the Rescue, stori ddifyr am anifeiliaid y jyngl yn cael llond bol ar barablu diddiwedd Enfys y parot, ond yn ei gwerthfawrogi'n llawn pan lwydda i'w hachub rhag byddin o forgrug. 50 llun du-a-gwyn. Adolygiad Gwales Stori fach berffaith yw hon i’r rheiny sydd angen ymarfer dysgu darllen. Mae digon o ailadrodd geiriau a chystrawen, a fydd yn rhoi hyder i’r darllenydd ifanc. Mae’r print yn fawr ac ond ychydig ohono ar bob tudalen gan fod y lluniau yn aml yn llenwi dros hanner y dudalen, felly bydd y darllenydd yn teimlo ei fod yn darllen y llyfr yn gyflym. Mae’r stori yn un fywiog a diddorol i ddal diddordeb y darllenydd ifanc ond mae hefyd yn addas i’w darllen i blant iau fel stori cyn mynd i gysgu neu i rannu llyfr rhwng plant o oedrannau gwahanol. Mae gan y stori hefyd foeswers a allai fod yn destun trafod wedi darllen y llyfr – gwerthfawrogi bod pawb ohonom yn wahanol ac i sylweddoli fod gan pawb ei ddawn a’i le yn y byd hwn, er nad yw’n hawdd gweld hynny weithiau, a phwysigrwydd cyfeillgarwch a ffrindiau. Llyfr bach syml ond llwyddiannus iawn. Gwenllïan Dafydd Default Title - £3.99 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa This item is a recurring or deferred purchase. By continuing, I agree to the cancellation policy and authorize you to charge my payment method at the prices, frequency and dates listed on this page until my order is fulfilled or I cancel, if permitted. View all details Help! Ble Mae Enfys? (Gwalch Balch: 3) £3.99
Golwg Sydyn Bargen Loading... A-Ww! Wynff a'r Dant Drwg (Gwalch Balch: 5) £3.99 £0.00 - £-3.99 ISBN: 9780863819926 Awdur: Margaret Ryan, David Melling Cyhoeddi Ebrill 2007 Addaswyd/Cyfieithwyd gan Siân Lewis. Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 48 tudalen Addasiad Cymraeg o Smiler Gets Toothache, stori ddoniol am ffrindiau'r jyngl yn ceisio gwella ddannoedd y crocodeil ac yn ceisio ei berswadio i lanhau ei ddannedd yn rheolaidd; i blant 7-9 oed. 53 llun du-a-gwyn. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Mai 2005. Adolygiad Gwales Dyma lyfr diddorol gyda chymeriadau hoffus dros ben. Dwi’n sicr y bydd disgyblion ifanc Blynyddoedd 1 a 2 yn hoff iawn o’r llyfr. Mae yma gymeriadau tebyg i Pwtgwt yr arth, Enfys y parot a Migl yr orang-wtang, ac maent i gyd yn ceisio helpu Wynff y crocodeil. Nid yw Wynff yn hoff o lanhau ei ddannedd, ac mae’r neges hon yn rhedeg drwy’r llyfr fel nodyn i atgoffa’r plant i ofalu am eu dannedd, ond heb wthio’r neges yn ormodol. Yn y cyfamser, fodd bynnag, cawn gyfle i ddod i adnabod y cymeriadau lliwgar eraill yn y llyfr a mwynhau eu sialens wrth iddynt helpu yr hen Wynff i wella’r ddannodd. Mae strwythur cadarn i’r llyfr ac mae adeiladu ar batrymau brawddeg trwy ailadrodd yn sicr yn cynorthwyo’r disgyblion wrth fynd i ddarllen a mwynhau’r llyfr. Dyma lyfr yn sicr y bydd disgyblion wrth eu bodd gydag ef, gan edrych ymlaen at glywed rhagor am anturiaethau Wynff a’i ffrindiau. Carol Davies Default Title - £3.99 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa This item is a recurring or deferred purchase. By continuing, I agree to the cancellation policy and authorize you to charge my payment method at the prices, frequency and dates listed on this page until my order is fulfilled or I cancel, if permitted. View all details A-Ww! Wynff a'r Dant Drwg (Gwalch Balch: 5) £3.99