This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen
A-Ww! Wynff a'r Dant Drwg (Gwalch Balch: 5)

A-Ww! Wynff a'r Dant Drwg (Gwalch Balch: 5)

  • Bag siopa Is-gyfanswm£3.99
 More payment options
  • ISBN: 9780863819926
  • Awdur: Margaret Ryan, David Melling
  • Cyhoeddi Ebrill 2007
  • Addaswyd/Cyfieithwyd gan Siân Lewis.
  • Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2
  • Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 48 tudalen

Addasiad Cymraeg o Smiler Gets Toothache, stori ddoniol am ffrindiau'r jyngl yn ceisio gwella ddannoedd y crocodeil ac yn ceisio ei berswadio i lanhau ei ddannedd yn rheolaidd; i blant 7-9 oed. 53 llun du-a-gwyn. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Mai 2005.

Adolygiad Gwales
Dyma lyfr diddorol gyda chymeriadau hoffus dros ben. Dwi’n sicr y bydd disgyblion ifanc Blynyddoedd 1 a 2 yn hoff iawn o’r llyfr. Mae yma gymeriadau tebyg i Pwtgwt yr arth, Enfys y parot a Migl yr orang-wtang, ac maent i gyd yn ceisio helpu Wynff y crocodeil.

Nid yw Wynff yn hoff o lanhau ei ddannedd, ac mae’r neges hon yn rhedeg drwy’r llyfr fel nodyn i atgoffa’r plant i ofalu am eu dannedd, ond heb wthio’r neges yn ormodol. Yn y cyfamser, fodd bynnag, cawn gyfle i ddod i adnabod y cymeriadau lliwgar eraill yn y llyfr a mwynhau eu sialens wrth iddynt helpu yr hen Wynff i wella’r ddannodd.

Mae strwythur cadarn i’r llyfr ac mae adeiladu ar batrymau brawddeg trwy ailadrodd yn sicr yn cynorthwyo’r disgyblion wrth fynd i ddarllen a mwynhau’r llyfr. Dyma lyfr yn sicr y bydd disgyblion wrth eu bodd gydag ef, gan edrych ymlaen at glywed rhagor am anturiaethau Wynff a’i ffrindiau.

Carol Davies