- ISBN: 9781845271329
- Awdur: Mari Emlyn
- Cyhoeddi Gorffennaf 2009
- Fformat: Clawr Meddal, 215x133 mm, 312 tudalen
Disgrifiad Gwales
Casgliad o lythyrau a anfonwyd gan unigolion yng Nghymru ac ym Mhatagonia. Cawn gipolwg ar brofiadau rhyfeddol a theimladau dirdynnol y dynion a'r merched a fentrodd i Batagonia, ynghyd â hynt a helynt rhai o'u disgynyddion. Dyma dystiolaeth gan bobl a fu'n byw'r hanes rhyfeddol hwn. Roedd y llythyr, fel cyfrwng, yn estyn dwylo dros y môr.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Daw Mari Emlyn yn wreiddiol o Gaerdydd, ond mae hi bellach wedi hen ymgartrefu yn Y Felinheli gyda’i gŵr a’i thri mab. Cyhoeddodd ddwy nofel Cam wrth Gam a Traed Oer, cyd-ysgrifennodd y ddrama lwyfan Deinameit ac mae hi wedi sgriptio ar gyfer sawl cyfres deledu gan gynnwys Pengelli a Tipyn o Stad. Mae hi wedi ymweld â’r Wladfa dair gwaith.
Gwybodaeth Bellach:
Yn y gyfrol hon cyhoeddir detholiad o lythyrau cyhoeddus a phersonol gan Wladfawyr a Chymry'r naill ochr i’r Iwerydd yn ystod 80 mlynedd gyntaf y Wladfa ym Mhatagonia. Cyhoeddir llawer o’r llythyrau yma am y tro cyntaf a’r gohebwyr yn amrywio o’r adnabyddus i’r distadl. Mae’r casgliad unigryw yma o lythyrau yn cwmpasu rhychwant eang o emosiynau ac yn arddangos y grefft syml ond oesol o ysgrifennu llythyr. Roedd y llythyr, fel cyfrwng, yn estyn dwylo dros y môr. Cawn gipolwg ar brofiadau rhyfeddol a theimladau dirdynnol y dynion a’r merched a fentrodd i Batagonia, ynghyd a hynt a helynt rhai o’u disgynyddion. Dyma dystiolaeth gan bobl a fu’n byw’r hanes rhyfeddol hwn. Dyma gorff o ohebiaeth wefreiddiol a ddaw â hanes y Wladfa yn fyw.
“Pan dderbynia un lythyr, bydd y lliaws yn tyru tuag ato, gan hyderu y dichon fod ynddo air bach atynt, neu ychydig o newyddion cyffredin...”
(R.J. Berwyn, 15, Ionawr, 1872)
“Yr wyf fi yn dal i weddio drosoch chi i gyd. Nid wyf yn eich anghofio ddydd na nos. Mae ein hiraeth ni, dy fam a minnau, yn mynd yn fwy am danoch y naill fis ar ol y llall, gan feddwl y bydd yn rhaid i ni fynd oddiyma heb eich gweled chwi byth mwy...”
(Simon a Hannah Jones, 8, Ebrill, 1891)
“Bu hen Gymru yn cysgu am ganrifoedd, ond mae’n deffro’n awr. Cael nap mae’r Wladfa, a rhaid i ninau fod yn gryf ac eofn i chwythu cyrn gwybodaeth a choethder i’w deffro...”
(Eluned Morgan, 1894)