This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
"Allwn ni ddim bod yn siŵr mai ymchwiliad i lofruddiaeth ydi hwn, ond ar y llaw arall, anaml iawn mae rhywun yn crwydro i mewn i sied ieir yn noeth a disgyn yn farw yno..."
Y bora ar ôl parti plu, caiff corff ei ddarganfod mewn sied ieir. Er mwyn ymchwilio i'r digwyddiad mae'n rhaid i'r Arolygydd Daf Dafis dyrchu i gefndir lliwgar y dioddefwr, a hanes hynod teulu'r fferm a'u cymdogion.
All yr achos ddim digwydd ar amser mwy anghyfleus i Daf, gan fod ei lysfab yn priodi o fewn yr wythnos, a thad y priodfab yn bygwth galw NATO i gadw'r heddwch.
Nofel dditectif am deulu, cymuned, ieir, drygioni a macarons.
Bywgraffiad Awdur
Hon fydd seithfed nofel Myfanwy Alexander, yn dilyn A Oes Heddwas (Gorffennaf 2015), Pwnc Llosg (Ebrill 2016), Y Plygain Olaf (Tachwedd 2017) Mynd fel Bom (Rhagfyr 2019), Coblyn o Sioe (Gorffennaf 2023) a Cath Fenthyg (2025). Mae A Oes Heddwas wedi cael ei chyfieithu i’r Saesneg bellach dan y teitl Bloody Eisteddfod, a Pwnc Llosg wedi’i chyfieithu dan y teitl Burning Issue. Cafodd A Oes Heddwas ei haddasu yn ddrama radio yr haf diwethaf yn y Gymraeg ar Radio Cymru ac yn Saesneg ar Radio 4, a chafwyd derbyniad gwych i’r ddau fersiwn.
Adolygiadau
Nofel arall yng nghyfres nofelau ditectif/cefn gwlad Daf Dafis. Yn y nofel hon mae’r Arolygydd Daf Dafis yn ceisio trefnu ei briodas, ond pan gaiff corff ei ddarganfod yn sied ieir fferm gyfagos, mae pethau’n mynd yn flêr… Fel yn nofelau blaenorol Myfanwy cawn ei cyflwyno i lu o gymeriadau difyr ac amrywiol, a bydd hiwmor yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â themâu dwys a difrifol sy’n effeithio ar gefn gwlad Cymru heddiw.
Lleoliad y nofel: cefn gwlad sir Drefaldwyn
- Fformat: Clawr Meddal
- Awdur: Myfanwy Alexander
- ISBN: 9781845279974
- Tudalennau: 389
- Dyddiad Cyhoeddi: 30/07/2026