This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Parti Plu

  • £11.99

Pan gytunodd Gaenor i'w briodi, roedd Daf Dafis yn gobeithio am briodas fach deuluol ddi-ffwdan. Wnaeth o ddim dychmygu y byddai'n cael ei lusgo i mewn i drefniadau priodas Siôn, ei lysfab, yn y marci fwyaf yn y byd ar fferm Neuadd, yn ogystal â darganfod corff merch leol mewn sied ieir ar ôl ei pharti plu...

Bywgraffiad Awdur

Hon fydd seithfed nofel Myfanwy Alexander, yn dilyn A Oes Heddwas (Gorffennaf 2015), Pwnc Llosg (Ebrill 2016), Y Plygain Olaf (Tachwedd 2017) Mynd fel Bom (Rhagfyr 2019), Coblyn o Sioe (Gorffennaf 2023) a Cath Fenthyg (2025). Mae A Oes Heddwas wedi cael ei chyfieithu i’r Saesneg bellach dan y teitl Bloody Eisteddfod, a Pwnc Llosg wedi’i chyfieithu dan y teitl Burning Issue. Cafodd A Oes Heddwas ei haddasu yn ddrama radio yr haf diwethaf yn y Gymraeg ar Radio Cymru ac yn Saesneg ar Radio 4, a chafwyd derbyniad gwych i’r ddau fersiwn.

Adolygiadau

Nofel arall yng nghyfres nofelau ditectif/cefn gwlad Daf Dafis. Yn y nofel hon mae’r Arolygydd Daf Dafis yn ceisio trefnu ei briodas, ond pan gaiff corff ei ddarganfod yn sied ieir fferm gyfagos, mae pethau’n mynd yn flêr… Fel yn nofelau blaenorol Myfanwy cawn ei cyflwyno i lu o gymeriadau difyr ac amrywiol, a bydd hiwmor yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â themâu dwys a difrifol sy’n effeithio ar gefn gwlad Cymru heddiw.

Lleoliad y nofel: cefn gwlad sir Drefaldwyn

  • Fformat: Clawr Meddal
  • ISBN: 9781845279974
  • Tudalennau: 350
  • Dyddiad Cyhoeddi: 30/07/2026