This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Haydn a Rhys - Nofel gan Geraint Lewis

  • £8.99

Mae Haydn a Rhys yn ffrindiau gorau ers dros 70 mlynedd, ac mae'r ddau wedi teithio o Geredigion i Ynys Mon i geisio darganfod a yw mab yng nghyfraith Haydn yn cael affer.

Mae gan y ddau gyfrinachau. Mae gan un ohonynt wn.

A fyddan nhw'n dal i fod yn ffrindiau ar ddiwedd y gwyliau ... ac a fydd y ddau yn dychwelyd adref?

Nofel am gyfeillgarwch oes, am ymddiriedaeth ac am yfed gwin coch yn yr haul.Haydn a Rhys.

Nofel ysgafn am ddau hen ffrind yn ceisio gwneud synnwyr o'u bywydau.

  • ISBN: 9781845279127
  • Geraint Lewis
  • Cyhoeddi: Rhagfyr 2024
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen
Bywgraffiad Awdur:

Mae Geraint Lewis yn hanu o Dregaron, Ceredigion. Graddiodd mewn Saesneg a Drama o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyhoeddodd dair nofel, sef X, Daw Eto Haul a Haf o Hyd, i gyd i Wasg Carreg Gwalch a thair cyfrol o straeon byrion Y Malwod (Annwn), Brodyr a Chwiorydd (Y Lolfa), Cofiwch Olchi Dwylo a negeseuon eraill a Lloerig (Carreg Gwalch). Ef oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa Tony Bianchi yn 2019. Daeth y nofel hon yn ail am y Fedal Ryddiaith yn 2020. Bu Geraint yn ysgrifennu’n helaeth i’r theatr a radio ac mae’n ysgrifennu’n gyson ar gyfer y teledu, yn bennaf i’r gyfres Pobol y Cwm.. Mae’n byw yn Aberaeron gyda’i wraig Siân.