This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Y Ferch ar y Cei

  • £9.99
  • Y Ferch ar y Cei
  • ISBN: 9781845278151
  • Catrin Gerallt
  • Cyhoeddi: Gorffennaf 2024
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 380 tudalen
Merch yw'r dditectif hon, yn gysylltiedig â rhaglenni materion cyfoes i gwmni teledu yng Nghaerdydd. Mae cymhlethdod bywydau personol yn cael eu plethu i stori am droseddau difrifol yn y ddinas, ond eto mae llawer o le ynddi ar gyfer hiwmor a dychan fydd yn sicr o ganu clychau ymysg pawb sy'n gyfarwydd â bywyd Cymraeg Caerdydd.

Bywgraffiad Awdur:

Dyma nofel gyntaf Catrin Gerallt, sy’n enedigol o sir Benfro ac wedi’i magu yng Nghaerdydd. Mae’n gyfarwydd iawn â rhychwant eang o fywyd a hiwmor y ddinas. Wedi astudio Ffrangeg yn y brifysgol, cafodd waith fel gohebydd yn BBC Cymru. Treuliodd ugain mlynedd fel Golygydd Cynorthwyol Materion Cyfoes, gan ennill gwobrau BT a BAFTA Cymru am ei rhaglenni ymchwiliadol. Mae hi’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gyfrannu straeon i raglenni Radio Cymru a Radio 4. Yn 2019, cafodd ei haddasiad Saesneg o nofel T Llew Jones, Trysor y Môr-Ladron, enwebiad ar gyfer medal CILIP Carnegie. Yn fwy diweddar, cyfrannodd straeon byrion i’r gyfrol Gymraeg Clymau ac i’r casgliad Painting the Beauty Queens Orange, (Honno) llyfr y mis gan Waterstones yng Nghymru (2021). Mae Catrin yn ymddangos yn gyson ar radio a theledu fel colofnydd a sylwebydd ar y newyddion

Gwybodaeth Bellach:

Mae Bethan Morgan yn ohebydd ar raglen deledu materion cyfoes, yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Er bod cynlluniau i ddatblygu ardal y Cei yn y ddinas yn amheus yn ei golwg, mae’i chynhyrchydd eisiau ongl wahanol ar y stori. Ond wrth ddod i adnabod rhai o drigolion yr ardal, mae Bethan yn cael ei thynnu’n ddyfnach i chwilio am y gwir ar ei liwt ei hun. Yn ogystal â’r gwrthdaro yn y swyddfa, mae’n dipyn o gamp i Bethan jyglo holl beli ei bywyd teuluol: mab yn wynebu arholiadau, merch yn symud o un bwyty i’r llall a gŵr yng nghanol ei affêr ddiweddaraf. Nid yw pethau’n esmwythach iddi pan gaiff gynnig cysur gan Declan, rheolwr bwyty’r Cei.

Cliciwch yma i weld adolygiad.
Cliciwch yma am benodau cyntaf.