This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Y S?

  • £8.50
  • £0.00
  • ISBN: 9781845274832
  • Tudur Owen
  • Cyhoeddi Hydref 2014
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 218 tudalen
Stori yw hon am fachgen ifanc sy\'n byw ar fferm ddiarffordd ar Ynys Môn yn 1980. Mae ei fywyd yn newid yn llwyr pan mae ei dad, sy\'n amaethwr ac entrepreneur mentrus, yn manteisio ar gyfle i sefydlu Sŵ ar y fferm.

Bywgraffiad Awdur:
Yn enedigol o Fodorgan, Sir Fôn, mae Tudur Owen yn ddigrifwr a darlledwr sydd bellach yn byw yn weddol hapus yn y Felinheli. Hon yw ei nofel olaf.

Gwybodaeth Bellach:
Sut mae cael eich llun ar dudalen flaen papur newydd cenedlaethol? Syml. Gadewch i Wyddel o’r enw Brendan Fitzgibbon ddod â llond lori o anifeiliaid egsotic i’ch fferm. Ychwanegwch haf gwlyb ofnadwy a Saesnes wallgof, yn ogystal â pherthynas fregus eich rhieni, ac mae ganddoch chi stori werth chweil i’r \'News of The World\'. Dyma sut y newidiodd fy mywyd i, a’n cornel ddistaw ni o Sir Fôn, am byth wrth i’r genedl ddod i wybod am helynt Y Sw.

Mae’r nofel hon yn seiliedig ar stori wir, ond newidwyd enwau, lleoliadau a ffeithiau i amddiffyn y diniwed. Ni chafodd unrhyw anifail ei niweidio yn sgil ysgrifennu’r stori yma.

Er mai ffuglen yw’r stori, a nifer o’r cymeriadau a’r sefyllfaoedd yn rai dychmygol, mae’n seiliedig ar blentyndod yr awdur. Cafodd ei pherfformio fel sioe lwyfan gan Tudur ddwy flynedd yn ôl – ond oherwydd cyfyngiadau’r cyfrwng, ni allodd wneud cyfiawnder â’r hanes. Mae’n awyddus iawn i wneud hynny yn y nofel hon.