This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- ISBN: 9781845274832
- Tudur Owen
- Cyhoeddi Hydref 2014
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 218 tudalen
Bywgraffiad Awdur:
Yn enedigol o Fodorgan, Sir Fôn, mae Tudur Owen yn ddigrifwr a darlledwr sydd bellach yn byw yn weddol hapus yn y Felinheli. Hon yw ei nofel olaf.
Gwybodaeth Bellach:
Sut mae cael eich llun ar dudalen flaen papur newydd cenedlaethol? Syml. Gadewch i Wyddel o’r enw Brendan Fitzgibbon ddod â llond lori o anifeiliaid egsotic i’ch fferm. Ychwanegwch haf gwlyb ofnadwy a Saesnes wallgof, yn ogystal â pherthynas fregus eich rhieni, ac mae ganddoch chi stori werth chweil i’r \'News of The World\'. Dyma sut y newidiodd fy mywyd i, a’n cornel ddistaw ni o Sir Fôn, am byth wrth i’r genedl ddod i wybod am helynt Y Sw.
Mae’r nofel hon yn seiliedig ar stori wir, ond newidwyd enwau, lleoliadau a ffeithiau i amddiffyn y diniwed. Ni chafodd unrhyw anifail ei niweidio yn sgil ysgrifennu’r stori yma.
Er mai ffuglen yw’r stori, a nifer o’r cymeriadau a’r sefyllfaoedd yn rai dychmygol, mae’n seiliedig ar blentyndod yr awdur. Cafodd ei pherfformio fel sioe lwyfan gan Tudur ddwy flynedd yn ôl – ond oherwydd cyfyngiadau’r cyfrwng, ni allodd wneud cyfiawnder â’r hanes. Mae’n awyddus iawn i wneud hynny yn y nofel hon.