Nofel am gerddorion jazz yn Berlin sy'n byw yng nghysgod y Natsïaid a bygythiad yr Ail Ryfel Byd. Mae Neifion yn rheolwr ar fand o gerddorion rhyngwladol - yn eu mysg mae Cymro, Americanwyr Affricanaidd ac Almaenes a oedd yn arfer bod yn ffrindiau ag un o'r swyddogion Natsïaidd lleol sy'n ceisio'i orau i 'lanhau' Berlin...
Cliciwch yma i ddarllen adolygiad Llwyd Owen o'r nofel!
Bywgraffiad Awdur:
Mae Simon Chandler yn hanu o Lundain, ond syrthiodd mewn cariad â Chymru, y Gymraeg a'r gynghanedd ar ôl iddo ymweld â cheudyllau Llechwedd ger Blaenau Ffestiniog. Bellach, mae'n golofnydd yng nghylchgrawn Barddas ac mae ganddo englynion mewn dwy flodeugerdd ddwyieithog. Mae’n gyfreithiwr yn ei waith bob dydd, ac mae wedi llunio cynllun cyfreithiol, Diogelwn, ar gyfer Cymdeithas yr Iaith i warchod enwau Cymraeg ar dai a thir. Yn ogystal, mae wedi rhyddhau dau albwm o ganeuon Cymraeg, ac mae'n rhedeg Grŵp Sgwrs a Pheint Manceinion yn ei ddinas fabwysiedig. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Llygad Dieithryn, yn 2023.
Gwybodaeth Bellach:
Ond erbyn 1933 mae'r ddinas dan reolaeth y Natsïaid, a'r band – sy'n gyfuniad o gerddorion Du a gwyn, Americanaidd ac Ewropeaidd – yn dân ar groen un o swyddogion ifanc yr SS.
Pianydd yr Asphalt Hustlers yw Ifan Williams, sydd wedi syrthio mewn cariad â chantores y band yn ogystal â’r gerddoriaeth gyffrous. A fydd cysgod hir yr Ail Ryfel Byd yn llwyddo i chwalu eu dyfodol disglair?
Chwip o nofel. Rhybudd cynnil am sut y gall meddyliau gulhau a ffasgiaeth ymddangos yn sydyn, a pheryglon hynny yn enwedig ar gyfer lleiafrifoedd hil a chrefydd – rhybudd a allai adleisio'r arwyddion sy’n dod i'r amlwg yn y Gorllewin heddiw. Ro’n i'n methu ei rhoi i lawr. – MALACHY OWAIN EDWARDS
- ISBN: 9781845279646
- Awdur: Simon Chandler
- Cyhoeddi: Mehefin 2025
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen