This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Llygad Dieithryn

  • £8.50
  • £0.00
  • Llygad Dieithryn
  • ISBN: 9781845278618
  • Simon Chandler
  • Cyhoeddi: Gorffennaf 2023
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen

Mae Katja, merch ifanc o'r Almaen, yn darganfod llythyr yn y Gymraeg a anfonwyd i'w hen, hen daid gan gyfaill o Gymro wrth fynd drwy bapurau ei mam. Er mwyn ceisio darganfod mwy, penderfyna ymweld â Chymru ar achlysur Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst. Wrth i'r llythyr ei harwain i ardal chwarelyddol Blaenau Ffestiniog daw Katja i ddysgu mwy am fywyd - a chyfrinachau - ei theulu.

Bywgraffiad Awdur:

Mae Simon Chandler yn wreiddiol o Lundain, a syrthiodd mewn cariad â'r Gymraeg ar ôl iddo ymweld â cheudyllau Llechwedd ger Blaenau Ffestiniog. Mae'n gyfreithiwr yn ei waith bob dydd ac mae wedi llunio cynllun cyfreithiol, Diogelwn, ar gyfer Cymdeithas yr Iaith i warchod enwau Cymraeg ar dai a thir. Yn ogystal, mae wedi rhyddhau dau albwm o gerddoriaeth Gymraeg, mae'n golofnydd i gylchgrawn Barddas ac mae ganddo englynion ym mlodeugerddi dwyieithog A470 - Cerddi'r Ffordd (2022) a Byways, fydd yn cael ei chyhoeddi yn 2024. Mae'n rhedeg Gr?p Sgwrs a Pheint Manceinion yn ei ddinas fabwysiedig. Hon yw ei nofel gyntaf.